Llety Caerdydd: COVID-19

Symud i mewn

Wrth i chi baratoi i adael eich neuaddau preswyl i symud i mewn i’ch cartref newydd, meddyliwch ymlaen a phataowch gyda’n pum awgrym gorau!

Mae byw yn eich tŷ eich hun yn dod â synnwyr newydd o gyfrifoldeb, ond faint rydych chi’n ei wybod am fyw fel rhywun lleol? Dysgwch amdano drwy roi cynnig ar ein  e-fodiwl, a grëwyd ar y cyd â Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Cofiwch ein dilyn ni ar Twitter i gael yr awgrymiadau a’r cyngor diweddaraf. Ymunwch yn y sgwrs gyda’r hashnod #NeuaddauIGartrefi

Mae eich eiddo wedi’i bacio ac rydych chi wedi casglu’r allweddi i’ch cartref newydd. Cyn i chi neidio drwy’r drws ffrynt i hawlio’r ystafell wely fwyaf, lawrlwythwch ein Rhestr Wirio Symud i Mewn i groesi eitemau oddi arni wrth i chi fynd eich blaen er mwyn sicrhau nad ydych yn anghofio unrhyw beth. Dyma’r prif bethau i’w cadw mewn cof:

Gofynnwch i’ch landlord/asiant gosod tai am restr a’i darllen yn ofalus.
Mae rhestr eiddo’n nodi beth sydd yn y tŷ a chyflwr y tŷ. Dylech nodi unrhyw broblemau, crafiadau a staeniau amlwg ynddo, a rhestru unrhyw eitemau sydd ar goll neu wedi’u difrodi. Tynnwch luniau (gyda dyddiadau arnynt) o bob ystafell ac unrhyw broblemau difrifol.

Sicrhewch eich bod yn cytuno ar y rhestr gyda’ch landlord/asiantaeth a bod y ddwy ochr yn ei llofnodi. Cadwch gopi i’ch cofnodion eich hun a sicrhewch ei fod wrth law pan fyddwch yn symud allan.

Gwiriwch fod larymau tân a charbon monocsid wedi’u gosod ac yn gweithio, a chynlluniwch lwybr dianc yn achos tân. Dilynwch gyngor gan y Gwasanaeth Tân a Chofrestr Gas Safe am aros yn ddiogel yn eich tŷ myfyrwyr. Os ydych yn pryderu, gallwch drefnu archwiliad diogelwch tân am ddim yn y cartref gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru!

Gwnewch yn siŵr fod eich tystysgrif diogelwch nwy yn gyfredol. Gofynnwch i’ch landlord/asiant gosod i ddangos y dystysgrif i chi – mae’n rhaid iddyn nhw wneud hyn yn gyfreithiol.

Os oes gan y tŷ larwm diogelwch, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ddefnyddio! Os nad ydych, gallech annilysu yswiriant tŷ’r landlord a’ch yswiriant eiddo.

Cysylltwch â’r cwmnïau cyfleustodau â’r darlleniadau mesurydd a’r dyddiad y symudoch i mewn – cadwch nodyn o’r darlleniadau i’ch hun. Mae hyn yn eich atal rhag talu am nwy a thrydan a ddefnyddiwyd gan yr tenantiaid blaenorol. Os ydych yn rhannu tŷ, gofynnwch i enw pob tenant gael ei roi ar y biliau. Drwy wneud hyn, ni fydd un person yn gwbl gyfrifol am y biliau. Trefnwch filiau eraill fel dŵr a thrwyddedau teledu. Dylai pawb sy’n byw yn y tŷ gytuno ar sut y byddwch yn talu.

Dewch o hyd i’r bocs ffiwsiau, stopfalfiau a sut i ddiffodd y dŵr/nwy a thrydan.

Oeddech chi’n gwybod bod Cymru ar flaen y gad o ran cyfraddau ailgylchu ledled y byd?  Mae’n rhywbeth rydyn ni’n falch iawn ohono felly i ddeall ein trefniadau yma yng Nghaerdydd, edrychwch ar ein tudalennau Ailgylchu a Gwastraff.

Fel arall, rydym wedi rhoi’r wybodaeth at ei gilydd ar ffurf llawlyfr.

Mae’n well gwneud hyn cyn gynted ag y byddwch yn symud i mewn yn lle aros nes eich bod yn sâl gan y gallai cofrestru gymryd hyd at bythefnos! Dewch o hyd i feddygfa gyfagos.

Cymerwch eiliad i gyflwyno eich hunain i’ch cymdogion. Mae’n wych cael gwybod pwy sy’n byw yn eich cymuned a gallwch hefyd gael gwybod rhywfaint am eu ffordd o fyw. Gallech fod yn byw drws nesaf i’ch ffrind gorau newydd.

Os yw eich cymdogion yn drigolion lleol, gallent o bosibl gadw llygad ar eich cartref yn ystod y gwyliau neu roi gwybod i chi beth yw’r system gwastraff ac ailgylchu. Yn yr un modd mae’n dda cydnabod os oes yn well ganddynt ffordd dawel o fyw, os ydynt yn gweithio neu os oes plant ifanc ganddynt er mwyn osgoi aflonyddwch yn y dyfodol a byw drws nesaf mewn cytgord.

O barcio i ddeiliaid y Bathodyn Glas i gymorth â chasgliadau gwastraff, gall Cyngor Caerdydd ddarparu nifer o addasiadau i’w gwasanaethau i gynorthwyo myfyrwyr anabl.  Gallwch ddarllen mwy am y cymorth sydd ar gael yma.

Gallai fod gennych hawl i newidiadau neu “addasiadau rhesymol” a fydd yn eich helpu i fyw yn eich cartref rhent. Mae gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth ragor o gyngor ar y math o addasiadau y gallwch ofyn i’ch landlord amdanynt.

© Llety Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd