Llety Caerdydd: COVID-19

Gwastraff ac Ailgylchu

Waste collections

Cesglir gwastraff ac ailgylchu bob wythnos. Caiff gwastraff cyffredinol ei gasglu fesul pythefnos. Byddwch naill ai gyda biniau olwynion du neu fagiau â streipiau coch ar gyfer eich gwastraff cyffredinol yn ddibynnol ar ardal lle rydych yn byw. Mae faint o wastraff cyffredinol y cewch ei roi allan yn gyfyngedig yn ardaloedd bagiau ac ardaloedd biniau, felly mae’n bwysig ceisio ailgylchu cymaint ag y gallwch.  Os oes gennych fin gwyrdd, mae hwn ar gyfer gwastraff gardd.

Waste collections

Gwiriwch eich dyddiadau casglu ar-lein neu lawrlwythwch ap “Cardiff gov”, ac optio i mewn i gael hysbysiadau i’ch atgoffa pryd dylech roi eich bagiau a’ch biniau allan.

Mae’n rhaid rhoi ailgylchu a gwastraff allan ar y palmant i’w casglu, cyn 6:00am ar y diwrnod casglu, neu ddim cynharach na 4:30pm y diwrnod cynt.

Dychwelwch eich bin gwag (os oes un gennych) a’ch cadi bwyd i mewn i ffiniau eich eiddo erbyn 9am y diwrnod ar ôl y casgliad.

Lawrlwythwch yr ap!

Gall ap Cardiff Gov drefnu nifer o wahanol wasanaethau, i gyd o’ch dyfais ddigidol.

Gallwch:

  • Drefnu neges atgoffa wythnosol, i roi gwybod i chi pa ailgylchu a gwastraff i’w gyflwyno i’w gasglu
  • Dysgu beth allwch chi ei ailgylchu yng Nghaerdydd
  • Dod o hyd i’r man agosaf sy’n cadw bagiau ailgylchu/gwastraff bwyd, neu drefnu bod rhai’n cael eu hanfon atoch
  • Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon a sbwriel

Chwiliwch am “Cardiff Gov” yn Google Play Store neu Apple App Store.

I gael gwybod ai biniau neu fagiau mae eich eiddo’n eu defnyddio ar gyfer casgliadau gwastraff cyffredinol rhowch eich cod post ar wefan y Cyngor neu lawrlwythwch ap “Cardiff Gov”.

Bydd y canlyniadau yn dangos y 4 dyddiad casglu nesaf yn ogystal â pha gynhwysyddion bagiau sydd eu hangen arnoch.

Os yw eich eiddo yn defnyddio bagiau streipiau coch ar gyfer gwastraff cyffredinol ac rydych newydd symud i mewn i eiddo ac nid oes gennych fagiau, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o’ch cyfeiriad preswylio (cytundeb tenantiaeth/ llythyr cwblhau ar gyfer eiddo / datganiad cyfleustodau cychwynnol) cyn cael cyflenwad o fagiau. E-bostiwch eich tystiolaeth o gyfeiriad preswylio newydd i rheoligwastraff@caerdydd.gov.uk.  Galwch hefyd anfon copi drwy’r post i: Rheoli Gwastraff, Depo Ffordd Lamby, Tredelerch, CF3 2HP. Sylwer na allwn ddychwelyd ddogfennau gwreiddiol, felly anfonwch gopïau yn unig atom ni.

Os cesglir y gwastraff cyffredinol mewn bin olwynion ar gyfer eich eiddo, dylai perchennog yr eiddo sicrhau bod un ar gael ar ddechrau’r denantiaeth.  Bydd cyflenwi bin newydd os collwyd neu dygwyd yn costio £25 a gellir ei drefnu drwy ffonio 029 2087 2088.

Y bagiau ailgylchu gwyrdd sydd ar gyfer ailgylchu cartref.  Mae hyn yn cynnwys papur, cardfwrdd, tuniau, caniau, erosolau, jariau a photeli gwydr a photeli, tybiau a hambyrddau plastig.  Cânt eu casglu bob wythnos. Dyma fanylion yr hyn y cewch ei ailgylchu.

Os oes gennych chi ddarnau mawr o gardfwrdd nad ydynt yn ffitio yn eich bag gwyrdd, rhowch nhw allan i’w casglu wrth ochr eich bagiau a byddant yn cael eu casglu.

Sicrhewch eich bod yn gwagio ac yn golchi unrhyw gynhwysyddion bwyd a diod cyn eu hailgylchu.

Mae pob tŷ yng Nghaerdydd yn defnyddio bagiau gwyrdd ar gyfer ailgylchu. Mae angen i’r rhain fynd allan bob wythnos ar y diwrnod casglu. Os ydych yn byw mewn fflat, efallai y bydd gennych fin cymunedol ar gyfer bagiau ailgylchu.

Darperir bagiau ailgylchu gwyrdd am ddim gan Gyngor Caerdydd. Gallwch ddod o hyd i’ch stociwr agosaf ar ap Cardiff Gov neu gallwch eu harchebu ar-lein i’w danfon i’ch cartref.

Cesglir gwastraff bwyd bob wythnos yng Nghaerdydd. .

Darperir bagiau/ cadis gwastraff bwyd am ddim gan Gyngor Caerdydd. Gallwch ddod o hyd i’ch stociwr agosaf ar ap Cardiff Gov neu gallwch eu harchebu ar-lein i’w danfon i’ch cartref.

Mae cadis bwyd ar gyfer eich holl fwyd diangen wedi ei goginio neu amrwd, gan gynnwys croen ffrwythau a llysiau, olin bwyd, plisgennau wy, bagiau te a choffi wedi’i falu.

Dysgwch sut i ddefnyddio eich cadis gwastraff bwyd.

Wyddoch chi?

  • Mae un cadi o wastraff bwyd yn creu digon o drydan i wylio 90 munud o Netflix ar y teledu!
  • Gall ailgylchu 30 croen banana greu digon o ynni i bweru sychwr gwallt am 10 munud, mwy na digon o amser i’ch paratoi ar gyfer diwrnod yn y brifysgol.
  • Gallai 29 bag te wedi’u hailgylchu greu digon o drydan i wefru gliniadur yn llawn

Mae Ailgylchu dros Gymru yn rhoi rhagor o wybodaeth am fuddion ailgylchu gwastraff bwyd yn y fideos byr isod. I gael gwybod mwy neu am ragor o awgrymiadau ar ailgylchu eich gwastraff bwyd, ewch i’w gwefan yn https://www.recycleforwales.org.uk/cy/BwydMyfyrwyr.

Wyddech chi fod Cymru’n un o brif wledydd ailgylchu’r byd? Yng Nghaerdydd, ni aiff unrhyw wastraff i safle tirlenwi. Caiff popeth ei ail-ddefnyddio, ei ailgylchu neu ei ddefnyddio fel tanwydd i greu ynni. Os ydych erioed wedi meddwl beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu a’ch gwastraff ar ôl ei gasglu o’ch tŷ myfyriwr gallwch weld hyn o’r fideo byr hwn.

Eitemau Swmpus

Gall yr YMCA gasglu am ddim yr eitemau cartref, eitemau trydanol a chelfi sydd mewn cyflwr digon da i’w hailwerthu.  I gael gwybod mwy, ffoniwch 029 2049 5114.

Os nad yw eich eitem mewn cyflwr digon da i’w rhoddi, mae’r cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu.  Os gellir ailgylchu eich eitem, bydd y cyngor yn ei chasglu am ddim!

Mae’n bwysig eich bod yn gwaredu eitemau swmpus a gwastraff a deunyddiau ailgylchadwy eraill yn gyfreithiol, neu gallech fod mewn perygl o dderbyn dirwy (heb sôn am y niwed y gall ei achosi i’r amgylchedd!) I gael mwy o wybodaeth, darllenwch y daflen wybodaeth hon gan Taclo Tipio Cymru.

Canolfannau Ailgylchu.

Mae rhai eitemau yn bosibl eu hailgylchu ond heb fod yn addas ar gyfer y casgliad bagiau gwyrdd.  Gellir ailgylchu llawer o eitemau gan gynnwys rhai trydan, metel sgrap neu decstilau drwy ymweld â Chanolfan Ailgylchu.  Dysgu mwy am eich canolfan ailgylchu agosaf a’r eitemau maen nhw’n eu derbyn.

Cyn rhoi gwybod am gasgliad ailgylchu neu wastraff sydd wedi’i fethu, mae angen i chi wirio ambell beth.

Ai hwn oedd y diwrnod cywir ar gyfer eich casgliad ailgylchu a gwastraff?

Ai hon oedd yr wythnos gywir ar gyfer eich casgliad gwastraff cyffredinol (bin du/bag streipïog)?

A oedd eich ailgylchu a’ch gwastraff allan cyn 6am ar y diwrnod casglu?

Ydy eich ailgylchu/gwastraff bwyd yn cynnwys eitemau anghywir?

Efallai y gwelwch sticer pinc ar eich biniau/bagiau. Mae hyn yn rhoi gwybod i chi bod gennych eitemau anghywir yn eich bagiau. Mae rhagor o wybodaeth yma.

Os ydych wedi mynd drwy’r cwestiynau hyn, a’ch bod wedi dilyn yr holl gyfarwyddiadau’n gywir, mae angen i chi roi gwybod am gasgliad sydd wedi’i fethu cyn gynted â phosibl.

O wneud hyn, os cewch hysbysiad cosb benodedig ac nad arnoch chi roedd y bai, bydd cofnod o’r casgliad a fethwyd ar y system. Gellir defnyddio hwn wedyn i apelio yn erbyn y gosb benodedig

Os cewch ddirwy gan y Cyngor am drosedd ailgylchu neu wastraff gallwch dalu ar-lein ar wefan y cyngor.

Talu dirwy ailgylchu a gwastraff

Troseddau y gallwch gael dirwy amdanynt yw:

  • Sbwriela (gan gynnwys o’ch cerbyd)
  • Baw Cŵn
  • Hysbysiadau sbwriela ar stryd a hysbysiadau glanhau sbwriel
  • Graffiti a rhoi posteri’n anghyfreithlon
  • Cyflwyno gwastraff yn anghywir neu ddefnyddio biniau /bag am y mathau anghywir o wastraff /ailgylchu.

© Llety Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd