Llety Caerdydd: COVID-19

Caru Caerdydd Cyn i Chi Fynd

Mae gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr ailgylchu a gwastraff ychwanegol pan fyddant yn symud tŷ, felly mae’n bwysig cynllunio sut rydych yn mynd i reoli’r pethau ychwanegol hynny pan fyddwch yn symud a deall sut gallwch Garu Caerdydd Cyn i Chi Fynd.

Crëwyd yr ymgyrch Caru Caerdydd Cyn i Chi Fynd i helpu i leihau faint o wastraff y mae myfyrwyr yn ei daflu allan pan fyddant yn symud ac mae’n rhoi cyfleoedd i roi eitemau i achosion da.

Mae’r cynllun hwn yn cefnogi myfyrwyr drwy ddarparu dewis amgen mwy moesegol ac amgylcheddol gynaliadwy yn lle anfon tunelli o wastraff i safleoedd tirlenwi neu losgi bob blwyddyn, sy’n helpu’r amgylchedd ac eraill – rhywbeth i ymfalchïo ynddo!

Dyma gyngor i fyfyrwyr isod…

Caru cyn i chi fyndCyn i chi fynd

Gall symud fod yn straen, ond peidiwch â phoeni!  Mae llawer o opsiynau ar gael i chi i’ch helpu i reoli’r gwastraff a’r ailgylchu ychwanegol hwnnw pan fyddwch yn pacio, ac mae’n syml ac yn gyfleus.

Casgliadau Wythnosol wrth Ymyl y Ffordd

Oeddech chi’n gwybod y gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o wastraff cartref gan ddefnyddio eich casgliadau ailgylchu ymyl y ffordd wythnosol?  Gwnewch ddefnydd llawn o’ch casgliadau rheolaidd yn y cyfnod cyn i chi symud.

Ewch i https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Pryd-gaiff-fy-miniau-eu-casglu/Pages/default.aspx neu lawrlwythwch yr ap Cardiff Gov i gael gwybod beth sy’n cael ei gasglu, a’ch dyddiadau casglu olaf.

Cofiwch, ni fydd unrhyw ailgylchu a gwastraff a roddir ar y palmant y tu allan i’r dyddiadau hyn yn cael eu casglu.

Rhowch – peidiwch â’i daflu!

Rhowch unrhyw eitemau y gellir eu hailddefnyddio neu fwyd nad yw’n ddarfodus i elusennau lleol.  Chwiliwch am fannau rhoi lleol i ddarganfod sut a ble i roi eitemau neu dewch â’ch eitemau i fannau rhoi Caru Caerdydd Cyn i Chi Fynd.

Gellir mynd â bwyd nad yw’n ddarfodus, dillad ac eitemau bach eraill i fannau rhoi Caru Caerdydd Cyn i Chi Fynd neu fannau rhoi YMCA.

 Ar gyfer eitemau swmpus fel dodrefn, setiau teledu neu offer mawr – cysylltwch â siop Rhodfa Colchester yr YMCA drwy e-bostio Cardiff.ColchesterShop@ymca.org.uk neu ffonio 029 2049 5114 i drefnu casgliad am ddim.

Gellir rhoi beics i Weithdy Beiciau Caerdydd, prosiect ailgylchu beiciau dielw yn Uned 9 Gweithdai Gabalfa, CF14 3AY (y tu ôl i’r siop fawr Aldi oddi ar Rhodfa’r Gorllewin). Neu ewch i https://www.cardiffcycleworkshop.org.uk/ i gael rhagor o wybodaeth.

Bagiau glas ar gyfer sbwriel ychwanegol

Os oes gennych wastraff ychwanegol na ellir ei ailgylchu, gallwch brynu rholyn o fagiau glas. Llenwch y bagiau glas gyda gwastraff na ellir ei ailgylchu, a’u rhoi wrth ymyl y ffordd i’w casglu ar unrhyw ddiwrnod gydol mis Mehefin.

I brynu bagiau a threfnu casgliad, e-bostiwch nsofficerenquiry@cardiff.gov.uk

Ewch i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Gallwch hefyd drefnu apwyntiad am ddim i ymweld â Chanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Ffordd Lamby neu Clos Bessemer. Efallai y bydd apwyntiadau ar yr un diwrnod ar gael, ond mae’n well trefnu ymlaen llaw.

Derbynnir ystod eang o eitemau ond cofiwch NA fydd y bagiau gwastraff du cymysg yn cael eu derbyn yn y canolfannau ailgylchu.

I ddarganfod beth allwch chi fynd ac i drefnu ymweliad, defnyddiwch yr ap Cardiff Gov neu ewch i www.cardiff.gov.uk/Canolfannau-Ailgylchu

Gwastraff Swmpus

Os oes gennych wastraff swmpus fel dodrefn neu offer mawr, mae angen i chi drefnu casgliad swmpus. Gellir codi tâl am rai eitemau, ac mae’n hanfodol trefnu casgliadau ymlaen llaw.

I ddarganfod beth allwch chi fynd ac i drefnu ymweliad, defnyddiwch yr ap Cardiff Gov neu ewch i www.cardiff.gov.uk/Casgliadau-eitemau-swmpus

Ailgylchwch a dim gwastraff ochr os gwelwch yn dda

Dylid rhoi unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu yn y cynhwysydd ailgylchu cywir ac nid yn eich bin du na’ch bagiau glas.

Dylai eitemau ailgylchadwy sych fel papur, cardfwrdd, tuniau, caniau diod, poteli plastig neu wydr a chynwysyddion plastig fynd i mewn i’r bagiau gwyrdd a dylai gwastraff bwyd fynd i mewn i’ch cadi bwyd.

Cesglir eich bagiau gwyrdd a’ch cadi bwyd bob wythnos am ddim!

Cofiwch, NI ddylai bagiau du ac eitemau swmpus gael eu gadael wrth ymyl eich biniau neu o flaen eich cartref.  Gallai hyn arwain at hysbysiad cosb benodedig o £100 neu erlyniad.

Bydd gan eich neuaddau preswyl ei drefniadau ei hun i gasglu gwastraff ychwanegol pan fyddwch yn symud, felly siaradwch â’ch darparwr i ddarganfod sut y gallwch ailgylchu mwy a gwastraffu llai.

Os ydych yn byw yn y neuaddau ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd neu un o safleoedd Collegiate AC – Eclipse, Crown Place neu Neighbourhood – gallwch roi eitemau amldro a bwyd nad wy’n ddarfodus ym man rhoi Caru Caerdydd Cyn i Chi Fynd yn eich adeilad. Gofynnwch i rywun yn nerbynfa eich neuaddau ble mae’r man rhoi.

Beth alla i ei roi trwy Caru Caerdydd Cyn i Chi Fynd?

Yr unig eitemau na ellir eu rhoi yw gobenyddion neu duvets / cwiltiau am resymau hylendid a bwyd wedi’i agor neu ddarfodus, ond gallwch roi popeth arall.

Derbynnir amrywiaeth enfawr o eitemau gan gynnwys dillad, esgidiau, llyfrau, eitemau cegin, eitemau electronig, ategolion, teganau, bagiau, eitemau addurniadol a hyd yn oed bwyd nad yw’n ddarfodus.

Os hoffech roi eitemau mawr fel dodrefn, offer mawr neu feiciau, siaradwch â rhywun wrth eich derbynfa, fel y gallant drefnu i’r eitemau hyn gael eu casglu ar wahân.

Am resymau diogelwch, rhowch unrhyw eitemau miniog fel cyllyll a ffyrc yn y blwch casglu eitemau miniog ac nid y bin rhoi mawr.

© Llety Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd