Llety Caerdydd: COVID-19

Croeso i Lety Caerdydd!

Rydym am helpu i wneud eich bywyd fel myfyriwr yn haws drwy eich rhoi ar ben y ffordd i gael cymorth, gwybodaeth a chyngor ar faterion cymunedol i fyfyrwyr gan gynnwys tai, ailgylchu a gwastraff, teithio, gwirfoddoli, diogelwch a llawer mwy!

Yn ystod eich amser fel myfyrwyr, efallai y bydd angen arweiniad arnoch gan rywun rydych yn ymddiried ynddo. A dyna pam ein bod ni yma! Mae Lletty Caerdydd yn wefan ar y cyd rhwng y Cyngor a’r tair Prifysgol i roi tawelwch meddwl i fyfyrwyr yng Nghaerdydd am faterion a allai fod yn effeithio arnynt yn y gymuned. Felly – os oes angen awgrymiadau ar symud o neuadd i dŷ arnoch, ar eich cartref, neu dim ond angen gwybod pryd i roi’r biniau allan, dylai fod popeth sydd ei angen arnoch yma!

Mae gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr ailgylchu a gwastraff ychwanegol pan fyddant yn symud tŷ, felly mae’n bwysig cynllunio sut rydych yn mynd i reoli’r pethau ychwanegol hynny pan fyddwch yn symud a deall sut gallwch Garu Caerdydd Cyn i Chi Fynd.

© Llety Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd