Cadw cartref hapus

Biliau

Onid yw eich contract yn nodi fel arall, chi sydd bellach yn gyfrifol am yr holl filiau cyfleustodau yn ystod eich tenantiaeth. Holwch eich landlord/asiantaeth gosod tai a yw biliau wedi’u cynnwys yn y rhent, a darllenwch y contract. Os nad ydynt ynddo, bydd angen i chi dalu amdanynt eich hunain. Rhowch wybod i’r cwmnïau cyfleustodau am y dyddiad y symudoch i mewn fel na fyddwch yn gorfod talu am fil y preswylwyr blaenorol. Os nad ydych yn siŵr pwy yw’r cwmnïau cyfleustodau, gofynnwch i’ch landlord/asiantaeth gosod tai. Cofiwch roi enw pob tenant ar y biliau.

Gair i gall: beth am drefnu cyfrif banc ar y cyd ar gyfer holl filiau’r tŷ? Cytunwch ar swm teg i’w dalu i’r cyfrif, a phryd y bydd yr arian hwnnw’n mynd i’r cyfrif. Yna mae modd talu’r holl filiau’n uniongyrchol o’r cyfrif banc ar y cyd yn hytrach nag o gyfrif banc un person. Gofynnwch i’ch banc lleol drefnu hyn.

Dŵr Cymru yw prif gyflenwr Cymru o ran dŵr. Caiff myfyrwyr fil am y cyfnod y maent yn byw yn yr eiddo. Er enghraifft, os llofnodwch gytundeb tenantiaeth o 1 Gorffennaf 2013, byddant yn eich bilio o’r dyddiad hwnnw nes i’r contract ddod i ben. Bydd angen i chi dalu drwy’r haf, hyd yn oed os nad ydych yn byw yno. Ni ddylai’r costau fod mor uchel am nad oeddech yn defnyddio dŵr, ond mae costau gwasanaeth i’w talu o hyd.

Os ydych yn byw mewn eiddo â mesurydd, cewch fil am y dŵr a ddefnyddiwch. Cewch fil bob chwe mis, neu pan fyddant yn eich ardal. Bydd Dŵr Cymru’n eich bilio yn seiliedig ar ddarlleniad o’r mesurydd. Os na allant ddarllen y mesurydd, byddant yn anfon bil amcangyfrifiedig.

Os ydych yn byw mewn eiddo heb fesurydd, cewch eich bilio o ddyddiad dechrau’r denantiaeth (e.e. 1 Gorffennaf) tan 31 Mawrth. O 1 Ebrill caiff bil newydd ei gyflwyno ar gyfer y 12 mis nesaf, a chi fydd yn gyfrifol amdano tan ddiwedd y flwyddyn, neu nes i chi symud allan. Bydd angen i chi roi gwybod i Ddŵr Cymru pryd fyddwch yn symud allan, a byddant yn anfon bil arall atoch.

Cysylltwch â Dŵr Cymru ar 0800 052 0145 neu yn http://www.dwrcymru.com/

 

Pan fyddwch yn symud i’ch tŷ newydd, bydd angen i chi ddysgu pwy yw eich cyflenwyr nwy a thrydan. Gofynnwch i’ch landlord neu asiantaeth gosod tai. Pan fyddwch yn gwybod pwy ydyn nhw, rhowch alwad iddyn nhw i ddweud mai chi yw tenantiaid newydd yr eiddo, gan roi’r dyddiad y gwnaethoch symud i mewn. Bydd hyn yn sicrhau na chewch fil y tenantiaid blaenorol. Sicrhewch fod pawb sy’n byw yn y tŷ yn rhoi eu henwau ar y bil.

Os nad ydych yn fodlon ar eich cyflenwyr, efallai y gallech eu newid. Mae llawer o gwmnïau’n codi cyfraddau gwahanol.

Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dewis cael teledu a rhyngrwyd band eang yn eu cartref. Os na fydd eich landlord yn rhoi un i chi, bydd angen i chi ddod â’ch teledu eich hun. Trafodwch â’ch ffrindiau pwy fydd yn rhoi un yn yr ystafell fyw. Fel rheol nid oes gan fyfyrwyr linell dir gan fod ganddynt ffonau symudol. Ond mae’n bwysig meddwl am eich gofynion, fel unigolyn ac fel rhan o grŵp. Siaradwch â’ch ffrindiau am ba becyn yr hoffech ei gael ac edrychwch ar rai gwahanol cyn cofrestru am un. Dylech wybod beth sydd ar gael i chi a pha ddêl yw’r orau i chi. Gall gwefannau sy’n cymharu ac yn rhoi cyngor ar fand eang eich helpu.

Sicrhewch nad ydych yn mynd i gostau am ddifrod diangen. Defnyddiwch osodiadau band eang a theledu sy’n bodoli eisoes i beidio â drilio i’r waliau i osod gwifrau. Fodd bynnag, os ydych am osod cynhyrchion newydd, gofynnwch am ganiatâd y landlord yn gyntaf, a’i gael yn ysgrifenedig.

Mae angen trwydded ar bob myfyriwr sy’n defnyddio derbynnydd teledu i wylio neu recordio rhaglenni teledu (gan gynnwys ar gyfrifiadur neu liniadur). Os yw’ch cartref yn gyd-denantiaeth, dim ond un drwydded deledu fydd ei hangen arnoch. Dim ond gyda thenantiaethau unigol y bydd angen trwyddedau unigol.

I gael rhagor o wybodaeth, neu i brynu’ch trwydded deledu ar-lein, ewch i www.tvlicensing.co.uk

Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy’n astudio yng Nghaerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru wedi’u heithrio rhag talu’r Dreth Gyngor. Nid eithriad awtomatig mohono. Mae angen i chi gael tystysgrif eithriad y Dreth Gyngor gan eich Prifysgol. Pan fydd hon gennych, dylech ei hanfon i:

Cyngor Caerdydd
Adran y Dreth Gyngor
Blwch SP 9000
Caerdydd
CF10 3WD

Rhagor o wybodaeth am Eithriad Myfyrwyr i’r Dreth Gyngor

Rydym wedi ymuno â myfyrwyr-wirfoddolwyr yr Hyrwyddwyr Amgylcheddol i greu llyfryn cyngor myfyrwyr sy’n llawn awgrymiadau defnyddiol ar arbed arian yn eich tŷ myfyrwyr.

Darllenwch y llyfryn am awgrymiadau ar:

  • Newid cwmni ynni
  • Lleihau eich defnydd o drydan a nwy
  • Atal lleithder a llwydni
  • Gwneud newidiadau bach i’ch arferion ynni a all eich helpu i arbed arian
  • Tystysgrifau Perfformiad Ynni
  • Manylion cyswllt defnyddiol

Problemau yn y tŷ

Mae tamprwydd a llwydni yn broblem gyffredin mewn nifer o dai myfyrwyr am ddau reswm; nid yw’r myfyrwyr yn cynhesu ac yn awyru’r eiddo’n effeithlon, neu mae problemau yn y tŷ, ond mae hyn yn anghyffredin.

Mae llwydni du ac anwedd yn eich cartref yn dangos bod gormod o ddŵr yn yr aer. Wrth i’r gaeaf agosáu, byddwch yn sylwi ar fwy o anwedd mewn ystafelloedd. Gall arwain at damprwydd a llwydni os na fyddwch yn delio â’r peth. Mae nifer o ffactorau’n achosi anwedd a llwydni. Y prif rai yw nad oes aer yn cylchredeg mewn ystafelloedd gan fod ffenestri a drysau ar gau.

 

Sut i ddelio â thamprwydd/llwydni:

  • Golchwch yr ardal yn drylwyr. Defnyddiwch sebon di-amonia neu lanedydd mewn dŵr poeth a sgwriwch yr ardal gyfan sydd â llwydni arni. Gwlychwch yr arwyneb â hydoddiad glanedydd cyn sgrwbio. Cofiwch wisgo menig rwber wrth ddefnyddio glanedydd. Gofynnwch pa gynnyrch yw’r gorau yn eich siop leol. Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr yn union.
  • Rinsio a sychu. Defnyddiwch gadach tamp i rinsio unrhyw lanedydd sy’n weddill oddi ar yr arwyneb sydd wedi’i drin.
  • Dad-heintio.  Dylai dadheintyddion gael eu defnyddio i lanhau deunydd yn drylwyr a sicrhau bod y rhan fwyaf o ficro-organebau wedi’u lladd. Felly peidiwch â defnyddio dadheintyddion yn lle glanhau deunydd â glanedydd, na chyn ei lanhau â glanedydd. I ddad-heintio, rhowch ychydig bach o gannydd cartref mewn dŵr poeth. Gwlychwch yr ardal gyfan ac aros 10 munud.
  • Glanhau. Taflwch unrhyw ddeunydd rhydd lle na allwch atal llwydni rhag tyfu, neu sydd wedi ymwreiddio yn y deunydd. Rhowch eitemau â llwydni arnynt mewn bag a’u taflu. Rhowch wresogydd wrth yr ardal yr effeithir arni i sychu’r deunydd. Sychwch am 2-3 diwrnod.

 

Gofal: dylech fod yn ofalus iawn wrth ddefnyddio cannydd! Gwisgwch fenig a sicrhewch fod yr ardal wedi’i awyru’n dda. Hyd yn oed heb ei gyffwrdd gall cannydd effeithio ar y llygaid, y trwyn a’r gwddw, felly sicrhewch fod y ffenestr ar agor cyn ei ddefnyddio. Gall hefyd ddifrodi dillad ac esgidiau.

Ar ôl cael gwared ar y llwydni, dilynwch y camau hyn i’w atal rhag dod yn ôl!

Osgowch anwedd / llwydni drwy:

  • Agor ffenestri i awyru ystafelloedd cymaint â phosibl i helpu i atal llwydni rhag tyfu ar waliau. (Dim ond pan fyddwch i mewn, peidiwch â gadael ffenestri ar agor pan fyddwch allan – mae hynny’n beryglus
  • Cadwch reiddiaduron yn isel am gyfnodau hirach yn hytrach na’u troi i fyny am rai oriau. Bydd hyn yn sicrhau bod gwres yn cynyddu yn yr ystafell ac yn cael ei gadw’n y waliau.
  • Sicrhewch eich bod yn mopio dŵr ar silffoedd ffenestr ac agorwch eich ffenestr, gan y bydd llwydni yn tyfu arno os caiff ei adael.  Mae dŵr ar silffoedd ffenestri ac anwedd ar ffenestr yn arwyddion bod angen agor ffenestri!
  • Gorchuddiwch badelli wrth goginio, peidiwch â gadael i degellau ferwi’n rhy hir, a sychwch ddillad tu allan (yn y gaeaf sychwch ddillad y tu mewn, ond agorwch ffenestri i gael gwared ar leithder).

Mae gan eich landlord hawl i adennill costau o’ch blaendal ar ddiwedd y flwyddyn os oes tamprwydd a llwydni yno o’ch herwydd chi, felly dilynwch y cyngor sydd yma.

Os teimlwch eich bod yn gwneud popeth y gallwch i gael gwared ar lwydni ac anwedd, a’ch bod yn teimlo bod angen gwneud gwaith ar yr eiddo, cysylltwch â:

Yr Adran Gorfodaeth Tai, Cyngor Caerdydd
taisectorpreifat@caerdydd.gov.uk
0300 123 6696

Am fwy o wybodaeth , lawrlwythwch y poster Lleithder a Llwydni neu ddarllen llyfryn Gwybodaeth Cyngor Caerdydd.

Mae llygod mawr a bach yn gyffredin mewn ardaloedd sydd â llawer o sbwriel/gwastraff. Byddan nhw’n bwyta bron popeth y mae pobl yn ei fwyta, felly mae sicrhau nad oes bwyd ar gael iddynt yn hollbwysig. Byddant yn cnoi ac yn rhwygo pecynnau bwyd, yn halogi bwyd gydag wrin ac yn baeddu. Gall pobl ddal heintiau ganddynt a gallant achosi difrod adeileddol yn y cartref, a dyma pam fod angen eu rheoli.

Fel tenantiaid, gallwch helpu i atal plâu drwy ddilyn 5 cam syml:

  • Sicrhewch nad oes bwyd iddynt. Glanhewch unrhyw friwsion neu wastraff ar ôl prydau. Ychydig iawn o fwyd sydd ei angen arnynt i oroesi – mae briwsion yn ddigon. Peidiwch â gadael bwyd allan. Cadwch yr holl fwyd sydd wedi’i agor mewn cynwysyddion wedi’u selio, a chadwch gaeadau biniau ar gau.
  • Defnyddiwch eich gwasanaeth casglu gwastraff yn gywir. Dylech wybod eich diwrnodau casglu. Dyma’ch cyfle i gael gwared ar unrhyw ffynonellau bwyd posibl. Sicrhewch fod gwastraff y cartref yn cael ei roi allan i’w gasglu’n rheolaidd ar y diwrnodau cywir fel nad yw’n cronni yn y tŷ neu’r ardd. Caiff bagiau gwastraff bwyd ac ailgylchu eu casglu bob wythnos, a biniau/bagiau duon bob pythefnos. Caiff bagiau duon eu rhwygo gan lygod/adar gan fod bwyd ynddynt. Gall defnyddio eich cadi gwastraff bwyd yn gywir atal hyn.
  • Cadwch y tu mewn a’r tu allan i’ch tŷ yn lân a thaclus. Nid yw waliau’n rhwystr i lygod – gallan nhw wasgu drwy’r bylchau lleiaf. Glanhewch unrhyw fagiau sydd wedi’u rhwygo yn gyflym i atal y llygod rhag gwledda ar y cynnwys!
  • Peidiwch â bwydo adar neu anifeiliaid gwyllt – gallech fod yn bwydo llygod mawr hefyd.
  • Sicrhewch fod eich eiddo mewn cyflwr da fel na all llygod mawr ddod i mewn iddo. Dylai caeadau draeniau fod mewn cyflwr da. Edrychwch am dyllau o amgylch pibellau yn yr eiddo, neu dyllau sydd heb eu trwsio’n gywir. Rhowch wybod am unrhyw broblemau i’ch landlord/asiantaeth gosod tai.

Mae llygod mawr a bach yn glyfar, ond maen nhw’n gadael arwyddion eu bod yn eich tŷ. Dysgwch sut maen nhw’n dod i mewn fel y gallwch ddatrys y broblem. Edrychwch am dyllau bach mewn bagiau sbwriel/pecynnau bwyd, baw a bylchau yn y waliau/lloriau. Mae llygod yn tueddu i ddod allan gyda’r nos i chwilio am fwyd, felly gwrandewch amdanynt yn crwydro ac yn crafu.

Os ydych wedi gweld yr arwyddion hyn a’ch bod o’r farn y gallai fod problem llygod yn eich eiddo, mae’n bwysig cael gwared arnynt yn gyflym gan eu bod yn atgenhedlu’n gyflym iawn! Cymerwch y camau hyn:

Cysylltwch â’ch landlord neu asiantaeth gosod tai i roi gwybod iddynt am y broblem. Gallent fod am reoli’r pla eu hunain, defnyddio cwmni preifat neu ddefnyddio gwasanaethau Cyngor Caerdydd.  Rhagor o wybodaeth ynghylch gwasanaeth rheoli plâu y cyngor.

Mae tîm Rheoli Plâu Cyngor Caerdydd yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad ar ddelio â phlâu. Ffoniwch 029 2087 2935 neu e-bostiwch: rheolipla@caerdydd.co.u

Os ydych wedi cytuno â’ch landlord i osod eich trapiau eich hunain, gallwch wneud y canlynol:

  • Gallwch ddefnyddio trapiau sy’n cau â chlep a’u gosod wrth ymyl waliau – lle mae llygod yn tueddu i gerdded.
  • Dylech roi siocled, bisgedi neu rawnfwyd arno.
  • Defnyddiwch ambell un a chael golwg arnynt bob dydd, gan symud llygod marw wrth i chi eu darganfod. Mae llygod yn glyfar – peidiwch â gwneud i’r trapiau gau heb reswm. Gallai’r sŵn eu dychryn a byddant yn gwybod beth sydd ar y gweill!
  • Dylid trin pob trap yn ofalus.

 

Gwenwyn:

  • Gallwch brynu gwenwyn llygod o siopau a chanolfannau garddio. Dewiswch y math mwyaf addas bob tro.
  • Rhowch y gwenwyn mewn lle diogel i sicrhau na all plant nac anifeiliaid anwes gael ato.
  • Golchwch eich dwylo ar ôl ei ddefnyddio.
  • Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud, ffoniwch y gwasanaeth Rheoli Plâu.

Pan ddewch at ddiwedd eich cytundeb tenantiaeth, dylech gael eich bond yn ôl. Fodd bynnag, gallai landlordiaid a thenantiaid anghytuno ar faint o flaendal gwreiddiol y tenant y dylid ei roi’n ôl. Fel tenantiaid, dylech gael eich blaendal cyfan yn ei ôl os ydych yn cadw at delerau’ch cytundeb tenantiaeth, nad ydych yn difrodi’r eiddo, a’ch bod yn talu’ch rhent a’ch biliau. Efallai eich bod yn credu i chi wneud y pethau hyn i gyd, ond efallai na fydd y landlord yn cytuno. Mae’n bwysig trin eich tŷ â pharch; eich cartref chi ydyw bellach. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo eich bod yn cael eich trin yn annheg, gallwch wneud y canlynol.

Os anghytunwch â’r landlord am faint o flaendal y dylid ei ddychwelyd, mae’ch cynllun Diogelu Blaendal Tenantiaeth yn cynnig gwasanaeth datrys anghydfod am ddim. Dyma pam ei bod yn bwysig sicrhau eich bod yn gwybod bod eich blaendal yn cael ei ddiogelu gan gynllun.

Os nad ydych yn siŵr a yw’ch blaendal wedi’i ddiogelu, gofynnwch i’ch landlord neu cysylltwch â’r cynlluniau a gymeradwywyd:

Gwasanaeth Diogelu Blaendal
0844 4727 000

MyDeposits
0844 980 0290

Cynllun Blaendal Tenantiaeth
0845 226 7837

 

I gael rhagor o help neu wybodaeth cysylltwch â Hybiau’r Cyngor, neu’ch Swyddog Llety Prifysgolion neu Ymgynghorydd Undeb y Myfyrwyr

© Llety Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd