Tacsis
Mae dau fath o gerbyd tacsi yng Nghaerdydd – Cerbydau Hacni a Cherbydau Llogi Preifat. Mae modd galw am Gerbyd Hacni oddi ar ymyl y ffordd ac maent yn ddu gyda boned wen. Mae Cerbydau Llogi Preifat yn cael codi teithwyr sydd wedi archebu tacsi ymlaen llaw dros y ffôn yn unig. Gall Cerbydau Llogi Preifat fod yn unrhyw liw ar wahân i ddu a gwyn.
Mae gan y ddau fath o dacsi blatiau ar gefn y cerbyd yn dangos eu rhif cofrestru. Mae gyrwyr y ddau fath o gerbyd hefyd yn gwisgo bathodynnau adnabod gyda rhif y drwydded arnynt. Fel arfer mae’r rhain i’w gweld ar ffenestr flaen a ffenestr ôl y cerbyd. Cyfreithiau tacsis O ran siwrneiau sy’n dechrau ac yn gorffen o fewn ffiniau dinas Caerdydd, mae’n drosedd i yrrwr Cerbyd Hacni wneud y canlynol:
- Gwrthod teithiwr (heb reswm digonol)
- Peidio â defnyddio’r mesurydd sydd wedi’i osod yn y cerbyd
- Codi ffi sy’n uwch na’r swm a ddangosir ar y mesurydd
Dylai’r gyrrwr tacsis ddangos ei fod ar gael i’w logi drwy oleuo’r golau sydd ar do’r cerbyd. Os yw gyrrwr Cerbyd Hacni mewn safle tacsis cofrestredig ac mae’r golau ar do’r cerbyd wedi’i oleuo, yna mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol iddo eich cludo i leoliad o’ch dewis gan ddefnyddio’r mesurydd sydd wedi’i osod yn y tacsi. Gall y gyrrwr ofyn am flaendal bach ond ni ddylai hwn fod yn ormodol e.e. blaendal o £15 i fynd i Cathays.
Ar gyfer siwrneiau sy’n dechrau yng Nghaerdydd ond yn gorffen y tu hwnt i ffiniau’r ddinas, gall y gyrrwr a’r teithiwr gytuno ar y ffi cyn dechrau’r siwrnai. Cwyno Os yw gyrrwr Cerbyd Hacni wedi gwrthod eich cludo am fod y ffi yn rhy isel, neu am unrhyw reswm arall, gallwch roi gwybod am hynny i adran Drwyddedu Cyngor Caerdydd. Tynnwch lun o rif y gyrrwr/rhif y tacsi/rhif cofrestru’r cerbyd gan nodi’r dyddiad, yr amser a lleoliad y digwyddiad a rhoi gwybod amdano i trwyddedu@caerdydd.gov.uk. Os na chaiff y Cyngor y wybodaeth hon ni all weithredu, felly rhowch wybod am y digwyddiadau hyn cyn gynted â phosibl.
Beicio
Mae beicio’n ffordd wych o ymlacio a chael hwyl ac mae’n ffordd hawdd o gadw’n heini ac iach. Gallwch ddod â’ch beic eich hun i’r Brifysgol neu brynu un yn un o siopau beic niferus y ddinas.
Siopau beic lleol
Cathays
Y Rhath
Canol y Ddinas
Pontcanna
Os hoffech i’ch busnes fod ar y rhestr hon cysylltwch ag Emma.Robson@caerdydd.gov.uk
Mae beiciau hefyd ar gael i’w llogi am hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan gyda Theithiau Beicio Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd wedi gosod standiau beic mewn lleoliadau amlwg ledled y ddinas, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn parcio ac yn cloi eich beic yn ddiogel lle bynnag yr ewch!
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwario rhywfaint o’r arian a arbedwch drwy adael eich car gartref ar glo da. Os hoffech weld standiau beic mewn unrhyw ardal lle nad oes rhai ar hyn o bryd, cysylltwch â beicio@caerdydd.gov.uk
Llwybrau Beicio
Mae rhwydwaith beicio Caerdydd yn tyfu, ac mae llawer o lwybrau oddi ar y ffordd i feicwyr a cherddwyr sy’n rhedeg drwy barciau prydferth. Enw rhwydwaith beicio Caerdydd yw Enfys.
Mae Taith Taf yn rhedeg heibio i nifer o brif atyniadau Caerdydd, megis Stadiwm y Mileniwm a Chastell Caerdydd, ac mae’n hawdd ei chyrraedd o ardaloedd myfyrwyr Cathays, Plasnewydd a Gabalfa.
Gallwch gynllunio eich llwybr drwy edrych ar-lein. Mae mapiau hefyd ar gael mewn lleoliadau ledled y ddinas, fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol.
Diogelwch
Gall beicio fod yn brofiad pleserus a diogel, ond fel gyda gweithgareddau eraill, gallwch gymryd camau i fod yn fwy diogel cyn neidio ar eich beic!
- Gwisgwch helmed. Mae’n debyg mai dyma’r darn cyntaf o gyngor a gawsoch pan ddysgoch i reidio beic am y tro cyntaf, ond yn rhyfeddol nid yw pawb yn gwisgo helmed. Gall helmed leihau’r tebygrwydd o gael anaf yn sylweddol. Peidiwch â chymryd y risg – gwisgwch helmed.
- Prynwch glo beic priodol. Defnyddiwch glo beic “Sold Secure” i gloi eich beic wrth stand beic. Gellir prynu cloeon beic am bris gostyngol yng Nghanolfan Diogelwch Prifysgol Caerdydd ym Mhlas-y-Parc.
- Rhowch oleuadau ar flaen a chefn eich beic. Rhowch olau gwyn ar y blaen a goleuadau ac adlewyrchyddion coch ar y cefn.
- Gwisgwch ddillad adlewyrchol a llachar yn y nos pan yn bosibl.
- Dilynwch Reolau’r Ffordd Fawr. Mae reidio beic fel gyrru car, ond mae’n rhatach, yn gynt ac yn fwy o hwyl! Pan yn beicio ar y ffordd, rhaid i chi gydymffurfio ag arwyddion, goleuadau traffig a Rheolau’r Ffordd Fawr.
- Peidiwch â beicio ar y palmant oni bai bod arwydd yn dangos bod gennych yr hawl i wneud hynny. Gall Heddlu De Cymru roi hysbysiad cosb benodedig i chi am feicio ar y palmant!
- Ewch ar gwrs hyfforddiant beicio. Nid yw pawb yn ddigon hyderus i feicio ar y ffordd. Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig cyrsiau beicio am ddim i fyfyrwyr, felly os nad ydych wedi beicio ers blynyddoedd neu os ydych yn feiciwr profiadol sydd am wella’ch sgiliau, mae cwrs ar gael i chi. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch beicio@caerdydd.gov.uk.
Mae hyfforddiant hefyd ar gael drwy Hyfforddiant Beicio Cymru a Pedal Power.
Mae eich Prifysgol yn gweithio mewn partneriaeth â Llety Caerdydd, Cyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru i gynnig digwyddiadau beicio drwy gydol y flwyddyn academaidd lle byddwn yn gosod goleuadau ar eich beic ac yn profi ei ddiogelwch. Gallwch hefyd ddysgu am lwybrau beicio a chyrsiau hyfforddiant beicio yn yr ardal yn ein digwyddiadau. Dilynwch ni ar Twitter i weld pryd fydd y digwyddiad nesaf yn eich ardal chi!
Beiciau dieisiau
Mae Cyngor Caerdydd a Gweithdy Beicio Caerdydd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i greu Cynllun Ailddefnyddio Beiciau. Nod y cynllun yw atal beiciau dieisiau rhag cael eu taflu i’r domen sbwriel.
Dylid mynd â beiciau dieisiau i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Waungron Road neu Bessemer Close. Gellir mynd â beiciau i Weithdy Beiciau Caerdydd hefyd drwy wneud apwyntiad (Uned 4, Gweithdy Bragu Trelái, CF5 4AQ).
Bydd y beiciau yn cael eu hailwampio ac yn cael eu gwerthu i’r cyhoedd a’u defnyddio mewn amryw brojectau cymunedol.
Os oes gennych unrhyw ymholiad, e-bostiwch: workshop@cycletrainingwales.org.uk neu ffoniwch: 02920 397283
Dolenni Beicio
Gwybodaeth am lwybrau yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, teithiau beicio, y manteision iechyd o feicio a digwyddiadau yn hyrwyddo ac yn dathlu beicio.
Cerdded
Mae cerdded yn ffordd wych o grwydro dinas Caerdydd. Mae’n eich helpu i gadw’n iach, ac mae’n rhad ac am ddim. Mae llwybrau cerdded ar garreg eich drws, ac mae’r rhan fwyaf ohonom yn eu defnyddio bob dydd. Mae gan Gaerdydd lawer o barciau a mannau gwyrdd y gallwch eu mwynhau.
Dim ond 30 munud o gerdded bum diwrnod o’r wythnos sydd ei angen arnoch i sicrhau ffordd iachach o fyw. Nid oes yn rhaid i chi wneud y cyfan ar unwaith chwaith!
Neuadd Talybont Prifysgol Caerdydd i Undeb y Myfyrwyr
Ar droed = 23 munud
Campws Llandaf Prifysgol Fetropolitan Caerdydd i Albany Road
Ar droed = 40 munud
Atriwm Prifysgol De Cymru i Heol Casnewydd
Ar droed = 7 munud
Atriwm Prifysgol De Cymru i Albany Road
Ar droed = 29 munud
Albany Road i Orsaf Drenau Cathays ar droed = 13 munud
Crwys Road i Orsaf Drenau Cathays ar droed = 10 munud
Os ydych am roi cynnig ar rywbeth sydd â mwy o drefn iddo, ymunwch ag un o grwpiau cerdded amrywiol Caerdydd e.e. Cerdded i Gadw’n Iach neu Y Cerddwyr.
Mae llawer o barciau a mannau gwyrdd agored yng Nghaerdydd sy’n denu llawer o bobl, yn enwedig pan fo’r haul yn gwenu! Gallwch edrych am eich parc lleol yn. Gallwch hefyd gael golwg ar wefan Awyr Agored Caerdydd am restr A-Y o weithgareddau awyr agored a llefydd i ymweld â hwy.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Mae toreth o fanteision i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach nag mewn car preifat:
- costau is
- ffordd ddiogel o deithio
- llai o lygredd
- dim angen dod o hyd i le parcio a thalu amdano!
Mae dod o hyd i fysus i’w defnyddio yn hawdd – mae www.traveline-cymru.info yn siop un stop ar gyfer gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae Bws Caerdydd yn rhedeg nifer o wasanaethau yng Nghaerdydd. Mae tocynnau diwrnod, wythnos neu fis ar gael i deithio o fewn y ddinas neu yn y rhanbarth ehangach. Mae tocynnau ar gael i’w prynu ar y bws neu yn swyddfa Bws Caerdydd.
Pás Met Rider Caerdydd yw’r dewis delfrydol i fyfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Cynigir y gwasanaeth gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd mewn partneriaeth â Bws Caerdydd ac mae’n cysylltu 3 champws, neuaddau myfyrwyr ac ardaloedd preswyl Prifysgol Fetropolitan Caerdydd â chanol y ddinas.
Gall myfyrwyr a staff brynu Pás Met Rider am bris gostyngol gan y Brifysgol, gan eu galluogi i deithio cymaint ag y mynnant yn ystod y flwyddyn academaidd ar rwydwaith bws Caerdydd.
Mae’r Met Rider yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 10pm yn ystod y tymor ac yn galluogi myfyrwyr a staff i deithio’n ddiogel ledled y ddinas.
Mae Iff yn gerdyn sy’n eich galluogi i deithio ar fws heb orfod talu gyda newid bob tro, p’un a ydych yn teithio’n rheolaidd neu bob hyn a hyn. Gallwch roi arian ar y cerdyn pan fyddwch yn camu ar y bws neu, os yw hynny’n fwy cyfleus, yn y dref yn y ganolfan gwasanaeth cwsmeriaid yn Stryd Wood. Mae’n golygu na fydd angen i chi boeni am gael y newid cywir mwyach – y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi’r cerdyn ar y darllenwr pan fyddwch yn camu ar y bws. Dyma’r dyfodol o ran talu am drafnidiaeth.
Trenau Arriva Cymru
Mae gwasanaethau’n gweithredu ledled Cymru gyda threnau lleol a rhai i’r cymoedd yn rhedeg rhwng tua 5am ac 11.30pm yn ystod yr wythnos, gan ddechrau’n hwyrach ar y penwythnos ac ar wyliau cyhoeddus. Yn ogystal â Chaerdydd Canolog, mae nifer o orsafoedd rheilffordd eraill, gan gynnwys Caerdydd Heol-y-Frenhines, Bae Caerdydd a Cathays. Mae tocynnau ar gael i’w prynu yn yr orsaf neu ar y trên. Mae gan y rhan fwyaf o orsafoedd lleol yng Nghaerdydd beiriannau tocynnau ar y platfform erbyn hyn, felly gallwch brynu tocynnau ymlaen llaw yn yr orsaf.
Trenau Arriva Cymru: 0870 9000 773 www.trenauarrivacymru.co.uk
Cerdyn Rheilffordd 16-25
Mae’n costio £30 a gallwch arbed 1/3 ar gostau rheilffordd ledled Prydain Fawr am flwyddyn gyfan.
Cynlluniau rhannu ceir
Os oes yn rhaid i chi yrru, gallech fanteisio ar gynlluniau rhannu ceir. Gall y rhain arbed arian i chi a helpu’r amgylchedd ar yr un pryd!
Mae mor syml â hynny. Bydd dau berson neu fwy yn teithio gyda’i gilydd yn hytrach nag ar wahân, naill ai mewn un car neu drwy ddulliau eraill fel cerdded, beicio, bws, tacsi ac ati.
Gallwch…
- arbed arian
- helpu’r amgylchedd ac
- ymlacio cyn cyrraedd y gwaith
Mae hefyd yn ffordd wych i fyfyrwyr newydd yng Nghaerdydd gwrdd â’u cyfoedion a dod i nabod y ddinas.
Mae cynllun rhannu ceir yn rhoi cyfle i aelodau ddod o hyd i gyd-deithiwr posibl ar gyfer rhan o’u taith neu’r daith gyfan. Mae cynlluniau yn annog aelodau cofrestredig i leihau’r defnydd o geir a manteisio ar ddewisiadau teithio cynaliadwy.
Gall pobl sy’n rhannu ceir hefyd ddefnyddio mannau parcio dynodedig yng Nghaerdydd. Po fwyaf sy’n cofrestru, y mwyaf o leoedd a gaiff eu creu. Dim ond pobl sy’n rhannu ceir sydd â hawl i barcio ym meysydd parcio rhai sefydliadau e.e. Ysgol Reoli Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ar gampws Llandaf.
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Ceir mannau parcio pwrpasol ar gyfer myfyrwyr sy’n rhannu ceir yng nghampws Cyncoed a neuadd breswyl Plas Gwyn, sy’n agos at gampws Llandaf.
Mae SharetoCardiff yn gynllun rhannu ceir ar gyfer cyflogwyr sy’n eich galluogi i edrych am gyfleoedd posibl ar gyfer rhannu ceir. Gallwch hefyd greu grŵp rhannu ceir. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen yr ‘Awgrymiadau Diogelwch’ cyn edrych am bartneriaid i rannu ceir! Efallai bod eich prifysgol eisoes yn rhan o’r cynllun, felly cymerwch olwg.
Gall myfyrwyr Prifysgol Caerdydd fanteisio ar Gynllun Liftshare.
Mae www.sewtacarshare.com yn grŵp agored sydd ar gael ar gyfer unrhyw daith.
Mae Clwb Ceir y Ddinas yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr y mae angen car arnynt yng Nghaerdydd ond nad ydynt yn ei ddefnyddio rhyw lawer. Mae Clwb Ceir y Ddinas yn rhoi mynediad i gar i chi pan fod angen un arnoch, ac mae’n golygu na fydd yn rhaid i chi dalu am y car tra’i fod yn eistedd yn segur y tu allan i’ch cartref. Mae aelodaeth â Chlwb Ceir y Ddinas yn hwylus a bydd yn arbed llawer o arian i fyfyrwyr sy’n gyrru llai na 6,000 milltir y flwyddyn.
Cymerwch olwg ar y fideo ‘How It Works’ i weld pa mor hawdd ydyw dros eich hun!
Ewch i http://www.citycarclub.co.uk/ am ragor o wybodaeth.