Pecyn Cymorth Gwastraff ac Ailgylchu
Gall sortio gwastraff ac ailgylchu yn eich tŷ myfyrwyr fod yn heriol. Er mwyn ei gwneud hi’n haws, dyma ganllaw cam wrth gam a phecyn cymorth i’ch helpu chi a’ch cyd-letywyr i ailgylchu mwy a gwastraffu llai.
Cam 1: Dysgwch pa ddiwrnod o’r wythnos mae eich gwastraff ac ailgylchu’n cael ei gasglu.
Gweler Tudalen Diwrnodau Casglu Cyngor Caerdydd a nodwch gyfeiriad eich eiddo.
Cam 2: Unwaith y byddwch yn gwybod eich diwrnod casglu, lawrlwythwch eich Calendr Diwrnod Casglu a Phoster Sortio o’r rhestr isod.
Mae’r poster yn dangos i chi sut i sortio’ch gwastraff ac ailgylchu i’r cynhwysydd cywir, ac mae’r calendr yn dangos eich holl ddiwrnodau casglu i chi ar gyfer y flwyddyn nesaf!
Awgrym: Gallwch argraffu ac arddangos y rhain yn ardal gymunedol eich cartref fel y bydd pawb yn gwybod beth i’w wneud.
Diwrnod Casglu Dydd Mercher:
Diwrnod Casglu Dydd Iau:
Cam 3: Lawrlwythwch App Cardiff Gov!
Chwiliwch am ‘Cardiff Gov’ yn Google Play, neu’r App Store.
Gallwch ddefnyddio’r app:
- I osod negeseuon atgoffa casgliadau
- I ddarganfod beth y gellir ei ailgylchu
- I archebu apwyntiad canolfan ailgylchu.
- A llawer mwy!
Cam 4: Rhannwch y canllaw cam wrth gam hwn gyda’ch cyd-letywyr, felly mae ganddyn nhw’r wybodaeth gywir ac yn gwybod beth i’w wneud!
Landlordiaid a Rheolwyr Eiddo
Os ydych yn landlord neu’n rheolwr eiddo, gallwch hefyd lawrlwytho’r Rhestr Wirio Biniau i wirio bod gan eich eiddo yr holl offer sydd ei angen ar eich tenantiaid i reoli eu gwastraff a’u hailgylchu.
Os oes angen i chi archebu offer ychwanegol neu offer newydd, ewch i dudalennau Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Caerdydd i gael rhagor o wybodaeth.