Symud allan
Mae symud allan o dŷ myfyrwyr roeddech chi’n ei rannu ychydig yn wahanol i adael neuadd breswyl prifysgol – mae gyda chi dŷ cyfan i’w lanhau a’i bacio, nid dim ond eich ystafell.
Er mwyn gwneud y broses yn haws (ac i’ch helpu i gael eich blaendal llawn yn ôl!) rydyn ni wedi creu rhestr wirio ddefnyddiol. Dilynwch y camau isod i aros ar y trywydd iawn.
Ydych chi wedi cofio… | Beth i’w wneud… | Wedi ei wneud? |
---|---|---|
Rhent | Gwnewch yn siŵr bod eich rhent i gyd wedi’i dalu. Os nad ydych chi’n siŵr, gwiriwch gyda’ch landlord neu’ch asiant gosod. | |
Bond/Blaendal | Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble mae eich ID Blaendal a chadarnhewch ble mae’n cael ei ddiogelu. Gallwch wirio’ch cytundeb tenantiaeth neu hen negeseuon e-bost. Os ydych chi’n dal i fod yn ansicr, gofynnwch i’ch landlord neu cysylltwch â’ch cynllun diogelu blaendal. | |
Stocrestr | Gwiriwch y stocrestr a lenwoch pan symudoch i mewn. Gwiriwch am unrhyw ddifrod nad oedd yno o’r blaen a threfnwch archwiliad symud allan. Os oes anghytundeb dros iawndal, cysylltwch â’ch gwasanaeth diogelu blaendal. | |
Glanhau | Glanhewch y tŷ yn drylwyr – nid dim ond eich ystafell! Defnyddiwch y stocrestr wreiddiol fel canllaw i wneud yn siŵr bod popeth yn lân. | |
Ailgylchu a Gwastraff | Edrychwch ar y Canllaw Symud i Fyfyrwyr i weld sut y gallwch gael gwared ar ailgylchu ychwanegol, gwastraff ac eitemau eraill yn gyfrifol. | |
Eitemau Diangen | Oes gennych chi bethau nad oes eu hangen arnoch mwyach? Peidiwch â’u rhoi yn y bin – cyfrannwch! Bydd llawer o elusennau yn hapus i gymryd eitemau y gellir eu defnyddio. Helpwch i leihau gwastraff wrth helpu eraill. | |
Post | Diweddarwch eich cyfeiriad post (yn enwedig os ydych chi’n mynd adref ar gyfer yr haf). Cofiwch roi gwybod i’ch meddyg, banc, darparwr ffon symudol, DVLA, cyflogwr, ffrindiau a theulu. | |
Allweddi | Dychwelwch eich allweddi i gyd i’ch landlord neu’ch asiant gosod yn ystod eich archwiliad symud allan. | |
Biliau trydan/nwy/dŵr | Talwch unrhyw filiau terfynol am nwy, trydan a dŵr. Darllenwch eich mesuryddion cyn gadael a rhowch eich dyddiad symud allan i’ch darparwyr. | |
Trwydded Deledu | Rhowch wybod i Trwyddedu Teledu eich bod chi’n symud allan – efallai y byddwch gennych hawl at rywfaint o ad-daliad! Diweddarwch eich gwybodaeth yn tvlicensing.co.uk. |