Eich corff

Yr argymhellion cenedlaethol ar gyfer gweithgarwch corfforol yw o leiaf 150 munud o weithgarwch aerobeg dwyster canolig am gyfnodau o 10 munud neu fwy.

Drwy wneud 30 munud y diwrnod byddwch yn llwyddo gwneud hyn heb drafferth!

Does dim angen i chi chwysu chwartiau; mae gweithgarwch corfforol dwyster canolig yn gweithio’ch calon ddigon heb eich blino’n lân.

Gallech yn hawdd gynnwys 30 munud o weithgarwch yn eich diwrnod wrth gerdded neu feicio i’r brifysgol neu’r gwaith.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhesymau pam y dylech fod yn actif, a sut y gallech wneud newidiadau bach, ewch yma.

Ewch i www.sustrans.org.uk i weld y mapiau teithio actif diweddaraf.

Cadw’r Galon yn Iach

Cofiwch fwyta deiet cytbwys.

Yn aml, mae’n hawdd iawn cael bwyd cyfleus, ond cofiwch y dylech fwyta’r canlynol yn ystod y diwrnod:

  • Ffrwythau a llysiau: Dylech geisio bwyta 5 dogn o ffrwythau a llysiau y diwrnod.
  • Bara, reis, tatws, pasta a bwydydd startslyd eraill: Dylai’r bwydydd hyn fod yn rhan bwysig o bob pryd. Dewiswch fwyd cyflawn lle y bo’n bosibl. Bydd yn eich cadw’n llawn am hirach ac yn rhyddhau egni’n arafach.
  • Llaeth a chynnyrch llaeth: Ceisiwch gael tri dogn y dydd.  Un dogn = gwydraid o laeth, un iogwrt, lwmp bach o gaws. Dewiswch fersiynau â llai o fraster lle y bo’n bosibl.
  • Cig, pysgod, wyau, ffa a ffynonellau eraill o brotein nad ydynt yn gynnyrch llaeth: Ceisiwch gael o leiaf ddau ddogn o’r grŵp hwn y dydd. Mae llawer o brotein a haearn yn y bwydydd hyn, ond gallant yn aml fod yn llawn braster dirlawn, felly gallai fod yn syniad da tynnu’r braster o’r cig a’r croen ac ati.
  • Bwyd a diod yn llawn braster a/neu siwgr: Hyn a hyn o’r bwyd hwn ddylen ni geisio’i fwyta. Gallwch fwyta rhywfaint o’r grŵp hwn, ond dim ond i dretio’ch hun!

Labeli bwyd

Braster – Monoannirlawn a pholiannirlawn yw’r mathau gorau o fraster, ac yna braster dirlawn. Mae traws-fraster yn fraster mwy artiffisial a dylem geisio ei osgoi (h.y. Cludfwyd / bwyd cyfleuster)

Halen – yn aml mae llawer o halen mewn bwydydd wedi’u paratoi ymlaen llaw. Ni ddylem fwyta mwy na 6g o halen y diwrnod (llond llwy fwrdd).

Wrth edrych ar labeli bwyd, cofiwch y system goleuadau traffig. Mae’n ddefnyddiol wrth geisio dewis bwyd iachach. Mae fersiwn fechan yma.

Diogelwch bwyd

Y llynedd, archwiliodd Cyngor Dinas Caerdydd nifer o fyfyrwyr a chanddynt Gampylobacter, y math mwyaf cyffredin o wenwyn bwyd. Mae modd atal gwenwyn bwyd ac mae sawl peth y gallwch ei wneud i ddiogelu’ch hun ac eraill.

Darllenwch y canllaw byr hwn ar wenwyn bwyd.

Ymhlith symptomau gwenwyn bwyd mae chwydu, dolur rhydd, poen bol a thwymyn. Os ydych chi’n dioddef o’r symptomau hyn, ac yn meddwl fod gennych wenwyn bwyd, ewch i’ch meddyg teulu a rhowch wybod am yr achos i Gyngor Dinas Caerdydd.

Gall yfed mwy o alcohol nag a argymhellir niweidio’ch calon a’ch iechyd yn gyffredinol. I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma

Mae hefyd yn bwysig cynnwys alcohol yn eich calorïau bob dydd. Yn aml, ni fydd pobl yn gwybod faint o galorïau sydd yn eu diodydd.

Faint sy’n ormod?

Ni ddylai dynion yfed mwy na 3-4 uned o alcohol y diwrnod.

Ni ddylai merched yfed mwy na 2-3 uned o alcohol y diwrnod.

Beth yw uned?

  • Un mesur tafarn (25ml) o wirodyn (40% ABV)  = 1 uned
  • Gwydraid (50lm) o wirod, sieri neu win cadarn arall (20% ABV) = 1 uned
  • Hanner peint (300ml) o lager, seidr neu gwrw cryfder arferol (3.5% ABV) = 1 uned
  • Gwydraid o win 175ml (13% ABV) = 2.3 uned

Y peth pwysig i’w gofio wrth yfed alcohol yw gwybod faint y gallwch ei yfed a pheidio ag yfed mwy na hynny. Darllenwch y label ar boteli neu ganiau i weld faint o ddiodydd safonol sydd ynddynt, a monitrwch faint rydych yn ei yfed.

Awgrymiadau ar sut i gadw’n ddiogel ac mewn rheolaeth

  • Yfwch ar stumog lawn – bwytwch cyn yfed ac wrth yfed
  • Yfwch ddŵr neu ddiodydd meddal rhwng diodydd alcoholig
  • Yfwch yn gymedrol a pheidiwch â chael rowndiau
  • Peidiwch ag yfed mwy nag sy’n cael ei argymell
  • Rhowch uchafswm diodydd i’ch hun, a chyfrwch faint rydych yn ei yfed
  • Trefnwch sut rydych yn teithio adref cyn yfed, i sicrhau eich bod yn cyrraedd yno’n ddiogel, a rhowch wybod i rywun pan fyddwch yn gadael
  • Mae’n bosibl y byddwch o hyd yn feddw drannoeth – faint o gloch gawsoch chi’r ddiod olaf?

Cofiwch

  • Hyd yn oed os na fyddwch yn feddw mae alcohol yn effeithio arnoch
  • Gwrthodwch yfed os ydych wedi cael digon, neu ddim eisiau diod
  • Yfwch yn gall a byddwch yn ddiogel
  • Dylech wybod faint y gallwch ei yfed a chofio bod rhai diodydd yn gryfach na’i gilydd
  • Cadwch lygad ar eich diod
  • Peidiwch â derbyn diod gan rywun dieithr
  • Cadwch lygad ar eich diod wrth iddi gael ei harllwys

Os yw rhywun yn yfed a’i fod yn dod yn anymwybodol neu nad yw’n gallu siarad, ffoniwch ambiwlans ar 999. I wneud y siŵr nad yw rhywun anymwybodol yn chwydu neu’n tagu, trowch e ar ei ochr, sicrhewch fod ei wddf yn glir, a pheidiwch â’i adael ar ei ben ei hun.

Ydych chi neu ffrind am roi’r gorau i ysmygu?

Os ydych chi’n ysmygu 20 y diwrnod, gallech arbed tua £2,800 y flwyddyn drwy roi’r gorau iddi!

Mae pobl sy’n cael cymorth wrth roi’r gorau i ysmygu 4 gwaith yn fwy tebygol o lwyddo. Gwasanaeth Atal Ysmygu Cenedlaethol Cymru yw Dim Smygu Cymru. Mae’n cynnig cwrs cymorth 7 wythnos, ac yn cynnig Therapi Amosod Nicotîn AM DDIM.  Ffoniwch Dim Smygu Cymru ar 0800 085 2219, neu gofynnwch iddynt eich ffonio chi’n ôl ar-lein.

Gwasanaeth gwych arall yw project The Filter’ gan ASH Cymru. Mae’n wasanaeth i bobl ifanc 11-25 oed sy’n cynnig cyngor a chymorth wrth roi’r gorau i ysmygu, yn ogystal â sôn am gamdybiaethau am ddefnyddio baco. Gallwch decstio neu ddefnyddio Whatsapp i gysylltu â thîm Filter ar 07453 665 220 a’u hychwanegu ar snapchat +THEFILTERWALES.

Mae gan wefan ASH Cymru hefyd wybodaeth, cyngor ac adnoddau.

Nid yw problemau â chyffuriau ac alcohol yr un fath i bawb. Mae symiau gwahanol a mathau gwahanol ohonynt yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol. Gall hyn ddibynnu ar eich corff a ffactorau eraill.

Mae cyffuriau ac alcohol yn effeithio ar eich crebwyll a’ch ymddygiad a all effeithio ar rannau eraill o’ch bywyd. Does dim angen i chi fod yn gorfforol ddibynnol ar gyffuriau nac alcohol iddynt gael effaith wael arnoch. Gallai’ch perthnasau ddioddef, eich sefyllfa ariannol waethygu, neu gallech gael eich effeithio’n gorfforol, yn emosiynol ac yn seicolegol. Gall camddefnyddio sylweddau ei wneud yn fwy tebygol y byddwch yn dioddef o drosedd neu’n cyflawni trosedd, a gallech gael cofnod troseddol a allai effeithio ar eich gallu i gael swydd yn y dyfodol. Gall cofnod troseddol hyd yn oed effeithio ar eich gallu i deithio dramor yn y dyfodol.

Os teimlwch fod defnyddio cyffuriau neu alcohol eraill effeithio arnoch, neu os hoffech gael cymorth a chyngor yn ardal Caerdydd, ffoniwch E-DAS ar 0300 3007000 neu ewch i www.e-das.wales.nhs.uk/. Mae E-DAS yn cynnig asesiad llawn o angen, ac mae’n bwynt cyswllt unigol i wasanaethau camddefnyddio sylweddau. Gall eich cyfeirio at y gwasanaeth sydd yn fwyaf priodol i’ch anghenion chi.  Gallwch hefyd ffonio E-DAS os yw un o’ch anwyliaid yn camddefnyddio sylweddau a bod hyn yn effeithio arnoch.

Os hoffech gymorth neu wybodaeth am wasanaethau eraill, ffoniwch DAN 24/7 ar 08088082234 neu ewch i http://dan247.org.uk/Default_Wales.asp i gael gwybodaeth am sylweddau penodol.

Dylech wybod y manylion hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu cael rhyw yn y Brifysgol. Gallwch gael dulliau atal cenhedlu a chondomau o unrhyw feddygfa neu glinig cynllunio teulu. Gallant hefyd roi cyngor i chi ar y dull atal cenhedlu gorau i chi.

Os ydych wedi cael rhyw heb ddefnyddio dulliau atal cenhedlu, neu os ydych yn meddwl na weithiodd y dull atal cenhedlu, gallwch ddefnyddio dulliau atal cenhedlu brys. Rhaid cymryd pilsen atal cenhedlu o fewn 72 awr o gael rhyw heb ddiogelwch. Mae’r bilsen yn fwy effeithiol os byddwch yn ei chymryd yn gynnar. Mae piliau atal cenhedlu ar gael am ddim i fenywod yng Nghymru. Ewch i’ch meddygfa neu fferyllfa leol a gofynnwch am ddulliau atal cenhedlu brys.

Mae rhyw heb ddiogelwch hefyd yn golygu eich bod mewn perygl o gael Haint a Drosglwyddir yn Rhywiol (STI) neu Glefyd a Drosglwyddir yn Rhywiol (STD). Mae gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro wybodaeth ddefnyddiol am iechyd rhywiol.

Gallwch ddod o hyd i’ch clinig iechyd rhywiol lleol drwy nodi eich cod post.

Rhagor o wybodaeth am Iechyd Rhywiol Myfyrwyr

© Llety Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd