Mae Cynllun Gwirfoddoli’r Heddlu i Fyfyrwyr yn cynnwys myfyrwyr Caerdydd yn gweithio gyda swyddogion o Heddlu De Cymru ar fentrau lleihau ac atal trosedd yn yr ardal leol. Nod y fenter yw datblygu cysylltiadau cymunedol cryfach a gwella bywydau myfyrwyr a phobl leol i wneud iddynt deimlo’n fwy diogel yn eu cymunedau.
Mae’r fenter wedi rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr o weithio gyda thrigolion lleol, myfyrwyr a Heddlu De Cymru. Mae eu cyfranogiad wedi gwella cysylltiadau cymunedol ac wedi cael effaith gadarnhaol hefyd ar ostwng y ffigurau troseddu yn Cathays.
Mae gwirfoddolwyr yn cydweithio â swyddogion ac yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau. Gall y rhain gynnwys mynd o ddrws i ddrws yn rhoi gwybodaeth am ymgyrchoedd atal troseddu, plismona diogel mewn digwyddiadau mawr megis y gêm Varsity, rhoi cymorth amlwg i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a Swyddogion yr Heddlu mewn digwyddiadau, patrolau a chefnogi cyd-fyfyrwyr trwy fentrau lleol fel y Bws Diogelwch i Fyfyrwyr.
Mae cynllun gwirfoddoli’r heddlu yn boblogaidd iawn felly dim ond ar adegau penodol o’r flwyddyn y mae’n recriwtio. Dilynwch Tîm Cyswllt Myfyrwyr Heddlu De Cymru ar Instagram i gael rhagor o wybodaeth a bod y cyntaf i glywed pan fydd y broses recriwtio’n agor.
Mae Cynllun Gwirfoddoli’r Heddlu yn cael ei fabwysiadu gan Skills Volunteering Cymru, swyddfa gwirfoddoli leol sy’n gweithio gyda myfyrwyr a’r gymuned ehangach. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y project a sut i ymuno, drwy ymweld â gwefan SVC.
Ar gyfer pob ymholiad arall, cysylltwch â’r Tîm Cyswllt Myfyrwyr drwy e-bostio SwpStudentLiaisonCardiff@south-wales.pnn.police.uk