Gwastraff ac Ailgylchu

Cymru yw un o’r prif ailgylchwyr yn y byd ac mae gan bawb sy’n byw yng Nghymru gyfrifoldeb i gael gwared â’u gwastraff a’u hailgylchu’n gyfrifol.

I lawer o gartrefi, yr awdurdod lleol, Cyngor Caerdydd, sy’n darparu’r casgliadau gwastraff ac ailgylchu. Mewn neuaddau myfyrwyr a fflatiau pwrpasol, efallai y bydd rheolau gwahanol ar gyfer cael gwared ar ailgylchu a gwastraff.

Edrychwch ar ein canllawiau i ddarganfod sut i gael gwared ar wastraff ac ailgylchu yn y ffordd gywir.

New recycling containers

Newidiadau i Gynhwysyddion Ailgylchu

Mae Cyngor Caerdydd yn newid y ffordd y mae’n casglu ailgylchu a bydd yn darparu cynwysyddion ailgylchu newydd i breswylwyr i helpu cartrefi i ailgylchu.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Caerdydd.

Cesglir gwastraff ac ailgylchu bob wythnos. Caiff gwastraff cyffredinol ei gasglu fesul pythefnos. Byddwch naill ai gyda biniau olwynion du neu fagiau du ar gyfer eich gwastraff cyffredinol yn ddibynnol ar ardal lle rydych yn byw. Mae faint o wastraff cyffredinol y cewch ei roi allan yn gyfyngedig yn ardaloedd bagiau ac ardaloedd biniau, felly mae’n bwysig ceisio ailgylchu cymaint ag y gallwch.  Os oes gennych fin gwyrdd, mae hwn ar gyfer gwastraff gardd.

Gwiriwch eich dyddiadau casglu ar-lein neu lawrlwythwch ap “Cardiff gov”, ac optio i mewn i gael hysbysiadau i’ch atgoffa pryd dylech roi eich bagiau a’ch biniau allan.

Mae’n rhaid rhoi ailgylchu a gwastraff allan ar y palmant i’w casglu, cyn 6:00am ar y diwrnod casglu, neu ddim cynharach na 4:30pm y diwrnod cynt.

Dychwelwch eich bin gwag (os oes un gennych) a’ch cadi bwyd i mewn i ffiniau eich eiddo erbyn 9am y diwrnod ar ôl y casgliad.

Lawrlwythwch yr ap!

Gall ap Cardiff Gov drefnu nifer o wahanol wasanaethau, i gyd o’ch dyfais ddigidol.

Gallwch:

  • Drefnu neges atgoffa wythnosol, i roi gwybod i chi pa ailgylchu a gwastraff i’w gyflwyno i’w gasglu
  • Dysgu beth allwch chi ei ailgylchu yng Nghaerdydd
  • Dod o hyd i’r man agosaf sy’n cadw bagiau ailgylchu/gwastraff bwyd, neu drefnu bod rhai’n cael eu hanfon atoch
  • Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon a sbwriel

Chwiliwch am “App Cardiff Gov

Cesglir gwastraff bwyd bob wythnos yng Nghaerdydd.

Darperir bagiau/ cadis gwastraff bwyd am ddim gan Gyngor Caerdydd. Gallwch ddod o hyd i’ch stociwr agosaf ar ap Cardiff Gov neu gallwch eu harchebu ar-lein i’w danfon i’ch cartref.

Mae cadis bwyd ar gyfer eich holl fwyd diangen wedi ei goginio neu amrwd, gan gynnwys croen ffrwythau a llysiau, olin bwyd, plisgennau wy, bagiau te a choffi wedi’i falu.

Dysgwch sut i ddefnyddio eich cadis gwastraff bwyd.

Wyddech chi fod Cymru’n un o brif wledydd ailgylchu’r byd? Yng Nghaerdydd, ni aiff unrhyw wastraff i safle tirlenwi. Caiff popeth ei ail-ddefnyddio, ei ailgylchu neu ei ddefnyddio fel tanwydd i greu ynni. Os ydych erioed wedi meddwl beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu a’ch gwastraff ar ôl ei gasglu o’ch tŷ myfyriwr gallwch weld hyn o’r fideo byr hwn.

Eitemau Swmpus

Gall yr YMCA gasglu am ddim yr eitemau cartref, eitemau trydanol a chelfi sydd mewn cyflwr digon da i’w hailwerthu.  I gael gwybod mwy, ffoniwch 029 2049 5114.

Os nad yw eich eitem mewn cyflwr digon da i’w rhoddi, mae’r cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu.  Os gellir ailgylchu eich eitem, bydd y cyngor yn ei chasglu am ddim!

Mae’n bwysig eich bod yn gwaredu eitemau swmpus a gwastraff a deunyddiau ailgylchadwy eraill yn gyfreithiol, neu gallech fod mewn perygl o dderbyn dirwy (heb sôn am y niwed y gall ei achosi i’r amgylchedd!) I gael mwy o wybodaeth, darllenwch y daflen wybodaeth hon gan Taclo Tipio Cymru.

Canolfannau Ailgylchu.

Mae rhai eitemau yn bosibl eu hailgylchu ond heb fod yn addas ar gyfer y casgliad bagiau gwyrdd.  Gellir ailgylchu llawer o eitemau gan gynnwys rhai trydan, metel sgrap neu decstilau drwy ymweld â Chanolfan Ailgylchu.  Dysgu mwy am eich canolfan ailgylchu agosaf a’r eitemau maen nhw’n eu derbyn.

Cyn rhoi gwybod am gasgliad ailgylchu neu wastraff sydd wedi’i fethu, mae angen i chi wirio ambell beth.

Ai hwn oedd y diwrnod cywir ar gyfer eich casgliad ailgylchu a gwastraff?

Ai hon oedd yr wythnos gywir ar gyfer eich casgliad gwastraff cyffredinol (bin du/bag streipïog)?

A oedd eich ailgylchu a’ch gwastraff allan cyn 6am ar y diwrnod casglu?

Ydy eich ailgylchu/gwastraff bwyd yn cynnwys eitemau anghywir?

Efallai y gwelwch sticer pinc ar eich biniau/bagiau. Mae hyn yn rhoi gwybod i chi bod gennych eitemau anghywir yn eich bagiau. Mae rhagor o wybodaeth yma.

Os ydych wedi mynd drwy’r cwestiynau hyn, a’ch bod wedi dilyn yr holl gyfarwyddiadau’n gywir, mae angen i chi roi gwybod am gasgliad sydd wedi’i fethu cyn gynted â phosibl.

O wneud hyn, os cewch hysbysiad cosb benodedig ac nad arnoch chi roedd y bai, bydd cofnod o’r casgliad a fethwyd ar y system. Gellir defnyddio hwn wedyn i apelio yn erbyn y gosb benodedig

Os cewch ddirwy gan y Cyngor am drosedd ailgylchu neu wastraff gallwch dalu ar-lein ar wefan y cyngor.

Talu dirwy ailgylchu a gwastraff

Troseddau y gallwch gael dirwy amdanynt yw:

  • Sbwriela (gan gynnwys o’ch cerbyd)
  • Baw Cŵn
  • Hysbysiadau sbwriela ar stryd a hysbysiadau glanhau sbwriel
  • Graffiti a rhoi posteri’n anghyfreithlon
  • Cyflwyno gwastraff yn anghywir neu ddefnyddio biniau /bag am y mathau anghywir o wastraff /ailgylchu.

© Llety Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd