Cartŵn o ferch ifanc yn dal bocs o eitemau’r cartref. Mae'r testun o dan y cartŵn yn dweud "Myfyrwyr ar Fynd"

Myfyrwyr ar Fynd

Mae gan fyfyrwyr yn aml ailgylchu, gwastraff ac eitemau eraill ychwanegol i’w gwaredu wrth symud tŷ, felly crëwyd  Myfyrwyr ar Fynd i’ch helpu i ddod o hyd i ffyrdd cyfreithiol, diogel a chyfrifol o ddelio â’r pethau ychwanegol hynny.

Darllenwch y canllaw hwn i ddysgu sut i gael gwared ar y pethau nad oes eu hangen arnoch mwyach!

Gall symud fod yn straen, ond peidiwch â phoeni!  Mae llawer o opsiynau ar gael i chi i’ch helpu i reoli’r eitemau ychwanegol hynny, sy’n syml ac yn gyfleus.

I ddysgu mwy, darllenwch neu lawrlwythwch y Canllaw Myfyrwyr ar Fynd.

Cartŵn o ddyn ifanc yn eistedd ar soffa ac yn edrych ar ei ffôn symudol. Mae'r testun o dan y cartŵn yn dweud "Gwerthwch!"

Gwerthu!

Gallwch werthu eich eitemau os ydynt mewn cyflwr da ar-lein am arian parod gan ariannu eich anturiaethau dros yr haf.  Mae yna rywun allan yna a fydd yn eu gwerthfawrogi cymaint ag yr oeddech chi ar un adeg.

Mae yna lawer o ffyrdd i werthu eich pethau fel ar Depop, Vinted, eBay, Gumtree neu Facebook Marketplace.

Cartŵn o ddyn ifanc yn dal bag o fwyd nad yw’n ddarbodus. Mae'r testun o dan y cartŵn yn dweud "Rhoi i elusen!"

Rhoi i elusen!

Os ydych chi’n brin o amser i werthu eich eitemau, peidiwch â’u taflu.  Ystyriwch eu rhoi i elusennau yn lle hynny.

Chwiliwch ar-lein am bwyntiau rhoddion lleol neu rhowch gynnig ar:

Cartŵn o fenyw ifanc yn sefyll y tu ôl i nifer o gynwysyddion ailgylchu a ddefnyddir yn ninas Caerdydd. Mae'r testun o dan y cartŵn yn dweud "Ailgylchu!"

Ailgylchu! 

Os na allwch ailgartrefu rhywbeth, ailgylchu yw’r ail ddewis gorau.  Dyma sut:

Defnyddiwch eich casgliadau ymyl y ffordd rheolaidd i gael gwared ar bethau cyn i chi symud allan.  Gwiriwch eich diwrnod bin a beth sy’n mynd i ble trwy ymweld â gwefan Cyngor Caerdydd.

Os oes angen i chi gael gwared ar eitemau mawr fel dodrefn neu offer mawr, yna trefnwch gasgliad swmpus.

Ewch i ganolfan ailgylchu am ddim heb drefnu apwyntiad.  Dangoswch eich cerdyn adnabod myfyriwr. I ddysgu mwy, ymwelwch â Chanolfannau Ailgylchu Caerdydd.

Cartŵn o ferch ifanc yn dal teledu. Mae'r testun o dan y cartŵn yn dweud "Dewch â nhw!"

Dewch â nhw!

Dewch â’ch eitemau i’n digwyddiad Tecawê Mawr!

Nid oes angen archebu lle, dim ond dod draw a rhoi eitemau i Dîm Ailgylchu Cyngor Caerdydd.

Eitemau a dderbynnir:

  • Eitemau trydanol bach
  • Dillad/Tecstilau
  • Cds/DVDs/Llyfrau
  • Cerameg (platiau, cwpanau ac ati)
  • Potiau/Sosbenni/Cyllyll – sicrhewch eu bod yn lân
  • Batris tŷ
  • Bylbiau golau
  • Bwyd nad yw’n ddarfodus

Eitemau NA Dderbynnir:

Dim oergelloedd, rhewgelloedd, offer mawr, dodrefn na bagiau cymysg o sbwriel/gwastraff.

Lleoliad Gollwng 1:

Ar agor bob dydd gan gynnwys penwythnosau o ddydd Llun 16 Mehefin i ddydd Sul 29 Mehefin – 10am i 3pm.

Wedi’i leoli ar y gyffordd lle mae Miskin Street yn cwrdd â Heol Lowther (y tu fas i Glwb Cymdeithasol Misfits). MAP

Lleoliad Gollwng 2:

Am ddau benwythnos yn unig, ar agor ar 21, 22, 28, a 29 Mehefin – 10am-3pm.

Wedi’i leoli yn yr ardal i gerddwyr lle mae Teras Cathays yn cwrdd â Pentyrch Street (y tu allan i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica) MAP

Angen clirio sbwriel o flaen eich tŷ?  Mae ein tîm yn cynnig pigwyr sbwriel ar fenthyg i’ch helpu i gadw’ch eiddo yn daclus ac osgoi dirwyon. Casglwch eich un chi o’r digwyddiad Tecawê Mawr!

Cartŵn o ddyn ifanc yn dal bocs o eitemau’r cartref ac yn sefyll o flaen bocsys symud. Mae'r testun o dan y cartŵn yn dweud "Cynlluniwch!"

Cynlluniwch!

Wrth symud allan, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau nad yw eich biniau yn gorlifo ac nad yw sbwriel yn cael ei ddympio, felly peidiwch â gadael sbwriel ychwanegol neu eitemau eraill y tu allan i’ch eiddo.  Mae’n rhaid iddynt ffitio yn eich bin, neu gall arwain at gamau disgyblu, a allai newid eich cynlluniau ar gyfer yr haf.

Cynlluniwch ymlaen llaw a defnyddiwch y cyngor uchod i osgoi dirwyon a thaliadau ychwanegol.

Bydd gan eich neuaddau preswyl ei drefniadau ei hun i gasglu gwastraff ychwanegol pan fyddwch yn symud, felly siaradwch â’ch darparwr i ddarganfod sut y gallwch ailgylchu mwy a gwastraffu llai.

 

Neuaddau Preswyl Prifysgol Caerdydd

NEGES ATGOFFA BWYSIG

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i waredu eiddo personol yn unig. Peidiwch â thynnu unrhyw eitemau sy’n eiddo i Brifysgol Caerdydd, fel dodrefn ac eitemau trydanol.

Myfyrwyr sy’n byw yn Neuaddau Preswyl Prifysgol Caerdydd

Gellir rhoi unrhyw eitemau y gellir eu hailddefnyddio ym mhwyntiau rhoi British Heart Foundation yn y neuaddau preswyl. Cymerwch olwg ar y posteri yn eich llety a’ch mannau cymunedol i ddod o hyd i’ch pwynt rhodd agosaf neu, fel arall, holwch yn y dderbynfa.

Gallwch roi:

  • Dillad
  • Esgidiau
  • Llestri fel powlenni, platiau a mygiau
  • Pethau trydanol bach fel lampau, gwyntyllau
  • Llyfrau
  • Teganau

Mae’r eitemau NA FYDD yn cael eu derbyn yn cynnwys:

  • Bwyd
  • Duvets
  • Gobenyddion
  • Cyllyll

Cyfeiriwch at y canllawiau gwastraff ac ailgylchu yn eich cegin i waredu unrhyw beth na ellir ei roi.

Os ydych yn byw mewn tŷ a reolir gan Brifysgol Caerdydd, cyfeiriwch at y canllawiau ar gyfer Tai a Fflatiau uchod.

 

Neuaddau Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Os ydych yn byw yn y neuaddau ym Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, gallwch roi eitemau amldro a bwyd nad wy’n ddarfodus ym man rhoi Caru Caerdydd Cyn i Chi Fynd yn eich adeilad. Gofynnwch i rywun yn nerbynfa eich neuaddau ble mae’r man rhoi.

Gallwch roi:

  • Dillad
  • Esgidiau
  • Llestri fel powlenni, platiau a mygiau
  • Eitemau trydanol bach fel lampau, ffaniau
  • Llyfrau
  • Teganau

Mae’r eitemau NA FYDD yn cael eu derbyn yn cynnwys:

  • Bwyd
  • Duvets
  • Clustogau

Os hoffech roi eitemau mawr fel dodrefn, offer mawr neu feiciau, siaradwch â rhywun wrth eich derbynfa, fel y gallant drefnu i’r eitemau hyn gael eu casglu ar wahân.

Am resymau diogelwch, rhowch unrhyw eitemau miniog fel cyllyll a ffyrc yn y blwch casglu eitemau miniog ac nid y bin rhoi mawr.

 

Prifysgol De Cymru

 Myfyrwyr PDC yng Nghaerdydd – mae pwyntiau rhoi Sefydliad Prydeinig y Galon yn y Campws Atrium. Siaradwch â’r tîm yn y dderbynfa a fydd yn eich cyfeirio at leoliadau’r pwyntiau rhoi.

 

 Neuaddau Preswyl Preifat

 Os ydych chi’n byw yn unrhyw un o’r neuaddau a reolir yn breifat, gallwch roi eitemau y gellir eu hailddefnyddio ym mhwyntiau rhoi Sefydliad Prydeinig y Galon yn eich adeilad (yn nhrefn yr wyddor):

  • Adam Street Garden
  • Alwyn Court
  • Arofan House
  • Blackweir Lodge
  • Bridge Street Exchange
  • Cambrian Point
  • Clodien House
  • Crown Place
  • Fflatiau Northgate House
  • Lumis Living
  • North Court
  • Severn Point
  • Summit Place
  • The Bakery
  • The Fitzalan
  • Tŷ Pont Hearn
  • Vita Caerdydd
  • West Wing
  • Windsor House

 Os ydych yn byw mewn neuadd preswyl preifat arall nad yw wedi’i rhestru, siaradwch â derbynfa eich neuadd i ddarganfod sut y gallwch roi eitemau a chael gwared ar unrhyw wastraff wrth symud allan.

GALW AM WIRFODDOLWYR! 
Helpwch fyfyrwyr i symud allan yn gynaliadwy a chasglu rhoddion ar gyfer Banc Bwyd Caerdydd!

Wrth i’r flwyddyn academaidd ddod i ben, bydd cannoedd o fyfyrwyr yn symud allan o’u llety – ac yn anffodus, mae hynny’n aml yn golygu llawer o wastraff bwyd a dryswch ynghylch cael gwared ar eitemau diangen, gwastraff ac ailgylchu.

Dyna pam rydyn ni wedi cyflwyno ‘Gadael yn Gyfrifol’, ymgyrch ymwybyddiaeth o ddrws i ddrws i ledaenu’r gair am reoli gwastraff, ailgylchu, ac eitemau diangen eraill pan fyddwch chi’n gadael eich cartref myfyriwr ar ddiwedd eich tenantiaeth. Byddwn hefyd yn casglu rhoddion bwyd heb eu hagor, wnaiff ddim pydru, ar gyfer Banc Bwyd Caerdydd!

Ac mae angen EICH help arnom!

Beth fyddwch chi’n ei wneud:

  • Cael sgyrsiau cadarnhaol gyda myfyrwyr ar garreg y drws am leihau gwastraff diwedd blwyddyn a chefnogi’r gwaith o glirio yn gyfrifol.
  • Lledaenu’r gair am wasanaethau sydd ar gael i helpu myfyrwyr i ailddefnyddio, ailgylchu neu roi eitemau nad ydynt eu hangen mwyach.
  • Gwirfoddoli gyda phwrpas: cynnig casglu sbwriel a chasglu rhoddion bwyd ar gyfer Banc Bwyd Caerdydd yn gyfnewid — cyfnewid syml am achos da.

Ble: Cathays a’r Rhath

Pryd: Dydd Mawrth – 20 a 27 Mai, a 3 a 10 Mehefin

Rydym yn darparu:

  • Hyfforddiant gwirfoddolwyr a sesiwn friffio gyflym.
  • Blychau ar gyfer rhoddion bwyd ac offer casglu sbwriel.
  • Ffordd gadarnhaol o roi yn ôl a bod yn rhan o achos da.

 Cofrestrwch heddiw

Unrhyw gwestiynau? E-bostiwch ni yn Alexander.hill@caerdydd.gov.uk

© Llety Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis | Polisi Preifatrwydd | Accessibility