Llety Caerdydd: COVID-19

Biliau

Oni bai ei fod wedi’i gynnwys yn eich contract, byddwch yn gyfrifol am bob bil trydan/nwy/dŵr yn ystod cyfnod eich tenantiaeth a bydd angen i chi gyllidebu ar gyfer hyn.

Ar ôl symud i mewn, rhowch wybod i’r cwmnïau cyfleustodau am eich dyddiad symud i mewn a nodwch ddarlleniad mesurydd er mwyn osgoi talu’r bil ar gyfer preswylwyr blaenorol. Os nad ydych yn siŵr pwy yw eich cwmnïau cyfleustodau, gofynnwch i’ch landlord/asiant gosod. Cofiwch roi enwau pob tenant ar y biliau, fel bod pawb yr un mor atebol.

Awgrym: Beth am sefydlu cyfrif banc ar y cyd ar gyfer eich holl filiau tŷ? Cytunwch ar swm teg a chyfartal i gyfrannu at y cyfrif a phryd y bydd yr arian hwn yn mynd i mewn. Yna, gellir talu pob bil yn uniongyrchol o’r cyfrif ar y cyd yn hytrach nag o gyfrif banc un person.

Dŵr Cymru yw prif ddarparwr dŵr yng Nghymru. Caiff myfyrwyr eu bilio o’r dyddiad y mae eu tenantiaeth yn dechrau. Er enghraifft, os byddwch yn llofnodi eich contract tenantiaeth o 1 Gorffennaf ymlaen, byddant yn eich bilio o 1 Gorffennaf tan y dyddiad y daw eich contract tenantiaeth i ben. Bydd dal angen i chi dalu drwy gydol yr haf hyd yn oed os nad ydych yn byw yno, oni bai eich bod yn cytuno â’ch landlord neu’ch asiant gosod.

Os ydych yn byw mewn eiddo â mesurydd, byddwch yn cael eich bilio ar sail y dŵr y byddwch yn ei ddefnyddio bob chwe mis. Bydd Dŵr Cymru yn ymweld â’ch eiddo i gymryd darlleniad. Mae mesurydd rhai eiddo ar y tu allan, ond os yw peiriannydd yn gofyn am gael darllen mesurydd y tu mewn i’r eiddo, gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio am brawf adnabod yn gyntaf. Os nad ydyn nhw’n gallu darllen y mesurydd, byddan nhw’n anfon bil amcangyfrifedig.

Os ydych yn byw mewn eiddo heb fesurydd, cewch eich bilio o’r dyddiad y bydd eich tenantiaeth yn dechrau tan 31 Mawrth. O 1 Ebrill, caiff cyfraddau dŵr eu diwygio a bydd bil newydd yn cael ei gyhoeddi. Chi fydd yn gyfrifol am hyn tan ddiwedd y flwyddyn, neu nes i chi symud allan. Gallwch hysbysu Dŵr Cymru am eich dyddiad symud bythefnos ymlaen llaw drwy eu gwefan.

Gallwch greu a rheoli cyfrif ar gyfer eich biliau dŵr ar-lein yn www.dwrcymru.com neu cysylltwch â 0800 052 0145.

Pan fyddwch yn symud i mewn i’ch cartref newydd, bydd angen i chi gysylltu â’ch cyflenwyr nwy a thrydan gyda darlleniad mesurydd er mwyn sicrhau nad ydych yn cael eich bilio am ddefnydd tenantiaid blaenorol. Gall eich landlord neu eich asiant gosod roi gwybod i chi pwy yw eich cyflenwyr.

Os na chynhwysir nwy a thrydan yn eich rhent, gallwch newid cyflenwr, a allai arbed arian i chi, neu gallech ddewis cwmni ecogyfeillgar. Mae llawer o wahanol gwmnïau ar gael sy’n cynnig cyfraddau gwahanol.

Yn aml mae band eang yn bwysig iawn ym mywyd myfyrwyr! Mae darparwyr yn aml yn cyfuno bargen band eang â chynnig teledu a ffôn llinell dir. Pan fyddwch chi’n symud i mewn, meddyliwch am eich gofynion, yn unigol ac fel rhan o’ch grŵp tŷ. Siaradwch â’ch ffrindiau tŷ am ba becyn yr hoffech ei gael a siopa o gwmpas cyn cofrestru gan fod llawer o opsiynau ar gael.

Er mwyn sicrhau nad ydych yn cael eich cyhuddo o wneud difrod diangen, defnyddiwch y gosodiadau band eang a theledu presennol i atal tyllau newydd rhag cael eu drilio i’r waliau am geblau. Fodd bynnag, os ydych am osod cynhyrchion newydd, gofynnwch am ganiatâd y landlord yn gyntaf a gwnewch hynny’n ysgrifenedig.

Gan ddibynnu ar y gwasanaethau teledu rydych chi’n eu defnyddio, efallai y bydd angen i chi brynu trwydded.

Mae’r gyfraith yn dweud bod angen i chi fod wedi’ch cynnwys mewn trwydded deledu i wneud y canlynol:
gwylio neu recordio rhaglenni wrth iddyn nhw gael eu dangos ar y teledu, ar unrhyw sianel
gwylio neu ffrydio rhaglenni yn fyw ar wasanaeth teledu ar-lein (fel ITV Hub, All 4, YouTube, Amazon Prime Video, Now TV a Sky Go)
lawrlwytho neu wylio unrhyw rai o raglenni’r BBC ar iPlayer. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw ddyfais a ddefnyddiwch, gan gynnwys teledu, cyfrifiadur bwrdd gwaith, gliniadur, ffôn symudol, cyfrifiadur llechen, consol gemau, blwch digidol neu recordydd DVD/VHS.

Os yw eich tŷ ar gyd-denantiaeth, yna dim ond un drwydded sydd angen i chi ei chael. Dim ond gyda thenantiaethau unigol y mae angen trwyddedau unigol. Am fwy o wybodaeth ac i brynu eich trwydded deledu ar-lein, ewch i www.tvlicensing.co.uk

© Llety Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd